Mae gennym weledigaeth gyfunol o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Tair blynedd yn ôl, fe wnaethom lansio Cymru Hardd, ein strategaeth uchelgeisiol ar gyfer y degawd.
Cafodd ei lansio mewn pandemig, a heb gael ein llethu gan y mynydd i’w goncro, aethom ati i hau hadau newid. Heddiw, rydym yn gweld y canlyniadau. Mae prosiectau wedi ffynnu. Mae partneriaethau wedi dyfnhau. Ac mae’r hyn a ddechreuodd fel strategaeth yn prysur ddatblygu’n fudiad cenedlaethol – wedi ei sbarduno gan gymunedau, ei yrru gan wirfoddolwyr, gyda’r sylfaen o gred a rennir bod Cymru lanach, wyrddach, decach yn hanfodol ac o fewn cyrraedd.
Mae ein cyflawniadau hyd yn hyn yn dystiolaeth o rym gweithredu ar y cyd, o ddigwyddiadau glanhau sydd wedi torri record i greu miloedd o fannau gwyrdd newydd ledled y wlad. Mae’r llwyddiannau hyn yn ganlyniad cydweithredu ar bob lefel, gan ddangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn dod ynghyd gyda phwrpas.
Trwy ein rhaglen flaenllaw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym wedi cefnogi creu gerddi cymunedol newydd – o leiniau bwytadwy ac ystafelloedd dosbarth yn yr awyr agored i ardaloedd sy’n dda i beillwyr — gan wneud natur yn ganolog unwaith eto i’n cymunedau a gwneud trefi a dinasoedd Cymru yn fannau iachach, hapusach i fyw.
Ar yr un pryd, mae EcoSgolion wedi nodi carreg filltir hanesyddol. Wrth i’r rhaglen ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed yn 2024, daeth Cymru yn wlad gyntaf y byd i gyrraedd targed Partneriaeth Addysg Werdd UNESCO, gyda hanner ein hysgolion bellach ag achrediad amgylcheddol. Mae hynny’n gyflawniad i bob disgybl, athro a chefnogwr ymfalchïo ynddo.
Yn y cyfamser, mae Cymru’n parhau i arwain yn rhyngwladol o ran cydnabod a gwobrwyo mannau gwyrdd o ansawdd uchel. Rydym wedi gweld y nifer fwyaf erioed o safleoedd cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf — arwydd clir o falchder a pherchnogaeth ar lefel llawr gwlad.
Ond rydym hefyd yn cael ein hatgoffa o raddfa’r her sydd yn dal o’n blaenau.
Mae’r cyd-destun ehangach yr ydym yn gweithredu ynddo yn gynyddol anodd. Er gwaethaf yr holl waith da sy’n cael ei wneud, datgelodd arolwg stryd diweddaraf LEAMS duedd sy’n peri pryder: mae dros draean ein hardaloedd trefol yn parhau i weld lefelau annerbyniol o sbwriel, ac mae nifer y strydoedd â gradd D – y raddfa lendid isaf posibl – wedi cynyddu 286%. Mae’r data yn rhoi darlun clir: mae ein systemau o dan bwysau, a heb atebion hirdymor, mae perygl y byddwn yn mynd yn fwy ar ei hôl hi.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn parhau i fodloni ein hymrwymiad i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff, gyda 247 o Hybiau Codi Sbwriel gweithredol ledled Cymru ac mae degau ar filoedd o wirfoddolwyr ymroddedig yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau bob dydd. A pheidiwch anghofio, ni sydd â Record y Byd Guinness bellach am y digwyddiad glanhau mwyaf erioed (mewn sawl lleoliad).
Yn ffodus, rydym yn dechrau gweld arwyddion newid polisi ar y gorwel. Mae’r Cynllun Dychwelyd Ernes i ddod, sydd yn cynnwys gwydr ac yn rhoi blaenoriaeth i ailddefnyddio, yn gam arwyddocaol ymlaen. Ynghyd â Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, mae gennym bellach y sylfeini yn eu lle i wneud newid ystyrlon i’r ffordd y mae Cymru’n mynd i’r afael â gwastraff. Rydym yn croesawu’r uchelgais a’r arweinyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddangos, ond mae’n rhaid i hyn gael ei gefnogi gan ymrwymiad hirdymor a’r adnoddau i gyd-fynd â hynny.
Mae graddfa’r her yn gofyn am fwy nag ymyriadau tameidiog. Rydym yn delio â phroblemau systemig, ac mae angen atebion systemig arnynt. Mae hynny’n golygu dod ynghyd – llywodraeth, busnesau, ysgolion, cymunedau a’r trydydd sector – i ailfeddwl sut rydym yn gofalu am ein mannau cyhoeddus a’n hamgylchedd naturiol. Nid yw cydweithredu bellach yn rhywbeth sy’n braf i’w gael. Mae’n hanfodol mewn byd lle mae cyllidebau yn dynn a phwysau cynyddol eisoes yn amlwg ar ein strydoedd.
I bawb sydd wedi chwarae rhan ar y daith hon hyd yn hyn: diolch. Mae eich gwaith yn bwysig, ac mae’r effaith yr ydych wedi ei chael mewn cymunedau ledled Cymru yn real ac yn cael ei werthfawrogi. Wrth i ni edrych ymlaen i flwyddyn pedwar o Gymru Hardd, rydym yn gwneud hynny gyda phenderfynoldeb o’r newydd, partneriaethau dyfnach, a theimlad cliriach o ddiben.
Dewch i ni barhau. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau Cymru Hardd am genedlaethau i ddod.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ar draws Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol. Mae gennym weledigaeth ar y cyd o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani a’i mwynhau.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr cymunedol, rydym yn parhau i gyflwyno rhaglenni sydd yn cyrraedd pawb yng Nghymru.
Yn ymarferol, gwyddom fod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ac y gall y buddion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hiechyd, ein llesiant, ein cymunedau ac i’r economi.
Yn fwy na dim, rydym yn gwrando ar bobl Cymru, ein partneriaid, a’n gwirfoddolwyr ynglŷn â’r ffordd y maent yn gweld Cymru Hardd y dyfodol.
Keep Wales Tidy
Bydd Cadwch Gymru'n Daclus yn parhau i weithio i ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd naturiol Cymru gan ddarparu gofod sydd yn teimlo'n ddiogel ac yn lân i HOLL gymunedau Cymru ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
O dan faner Caru Cymru, bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnal ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, yn cynnwys cymorth i droi Cymru’n economi gylchol.
Bydd Caru Cymru yn
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli nifer o raglenni cenedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.
Trwy ein gwaith cadwraeth byddwn yn
Byddwn yn
Byddwn yn parhau i ysgogi rhagoriaeth amgylcheddol a dathlu llwyddiant trwy ein rhaglenni a’n prosiectau.
Rydym yn cydnabod, trwy roi blaenoriaeth i ymgysylltu ieuenctid, y gallwn sicrhau dealltwriaeth gynnar o effaith hirdymor eu hymddygiad a chynorthwyo datblygiad gwaddol gwell i’r wlad ac i’r blaned.
Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion byddwn yn
Drwy ein Bwrdd leuenctid byddwn yn
Ers hanner can mlynedd, rydym wedi bod yn arwain y ffordd i gymunedau trefol, gwledig, arfordirol a busnes ar draws y wlad ddod ynghyd, gwerthfawrogi ein holl amgylcheddau ac uno i wella ansawdd ein hamgylcheddau ar y cyd.
Dyma fframwaith y prosiectau a'r rhaglenni y byddwn yn parhau i gyflwyno ein hymagwedd Cymru Gyfan trwyddynt.
Cliciwch ar y tabiau isod i weld map o ble rydym wedi cyflawni'r prosiect neu'r rhaglen.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ledled Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Yn ymarferol, rydym yn gwybod bod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ond rydym hefyd yn gwybod bod y ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni hyn yn bwysig.
Mae ein hymddygiad a’n gwerthoedd wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud. Byddwn bob amser yn:
Mae ein tîm yn dangos cynaliadwyedd yn y gwaith yn ddyddiol trwy:
Fel elusen amgylcheddol ein polisi yw i ail ddefnyddio, ailwampio, ailgylchu yn gyntaf. Er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig mor ddoeth â phosibl, mae ein prosiectau’n cael eu mesur o ran eu haddasrwydd a’r graddau y maent yn cefnogi ein nodau cyffredinol. Gwneir yr holl ddyraniadau cyllideb a gwariant yn unol â gweithdrefnau archwilio mewnol trylwyr.
Fel elusen genedlaethol ddibynnadwy, mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein gwaith i gyd mor gynhwysol ag y gall fod, a’n bod yn gallu cyflawni ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Dyma pam y dewiswyd buddsoddi cymaint yn ein gwaith EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant) dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd yn cynnwys cefnogi’r gwaith o gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac ymrwymo i gynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Rydym wedi bod yn cymryd camau mawr i gyrraedd cymunedau newydd, ac i weithio gyda’r bobl a’r llefydd hynny sydd heb fwynhau ein cefnogaeth yn draddodiadol. Rydym yn mwynhau llwyddiant go iawn gyda rhaglenni cenedlaethol fel Lleoedd Lleol i Natur a Caru Cymru ac yn cefnogi safleoedd mewn ardaloedd llai gwledig a chanol dinas.
Mae ein rhaglenni yn llwyfannau ar gyfer cyflwyno’r sylfaen ar gyfer rhai o’n nodau mwyaf uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Yr un mor bwysig, maent yn gwneud hynny trwy alluogi pobl i gydweithio i wella ein hamgylchedd.
Mae ein rhaglen addysg Eco-Sgolion, a phrosiectau ieuenctid eraill, yn ein galluogi i weithio gyda phobl ifanc i sefydlu ymddygiad cynaliadwy a dealltwriaeth ynghylch sut i greu Cymru Hardd eu dyfodol.
Mae ein rolau gwirfoddoli heriol a gwerthfawr ar ffurfiau gwahanol ar draws y wlad – creu natur ar garreg ein drws o gerddi bwyd trefol a phryfed peillio ar ystadau tai i lanhau mewn parciau, trefi ac ardaloedd morol. Rydym yn falch o weithio ar y cyd â chefnogwyr ymroddgar sydd â’r un nod â ni: Cymru Hardd.
Wrth wynebu pryder cynyddol am newid hinsawdd, tlodi, iechyd a llesiant, a chryfder economaidd, rydym wedi cynnal llif cyson o weithgaredd, gan fynd i’r afael â materion uniongyrchol gydag atebion hirdymor, cynaliadwy.
Mae ein strategaeth Cymru Hardd ar gyfer 2022-30 yn adeiladu ar y gwaith yr ydym wedi’i wneud dros y 50 mlynedd diwethaf ac yn cyflwyno syniadau newydd, pobl newydd a nodau newydd i feithrin y gwaith hwn ymhellach.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cyhoeddus, preifat a phartneriaid eraill yn y trydydd sector mewn prosiectau sydd o fudd i bob ochr. Bwriad y strategaeth hon yw arwain y rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd eisoes yn Ilwyddiannus er mwyn bod pob un o’n partneriaid yn teimlo mor gysylltiedig â phosibl i nodau Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Cymru Hardd.