Mae rhaglen GLÂN (Geospatial Litter Analysis) Cadwch Gymru’n Daclus yn darparu’r darlun mwyaf cynhwysfawr o sbwriel ac ansawdd amgylcheddol lleol yng Nghymru, gan ein helpu i ddeall nid yn unig lle mae problemau’n bodoli, ond hefyd sut y gellir eu hatal.
Drwy gyfuno data arolygon cadarn â gwybodaeth leol a gweithredu cymunedol, gallwn nodi tueddiadau, targedu ymyriadau a chefnogi gwelliannau sy’n dod â budd i bobl, lleoedd a bywyd gwyllt.
Mae’r briffiau hyn yn dwyn ynghyd y data GLÂN diweddaraf sydd ar gael ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru, ochr yn ochr â gwybodaeth am ansawdd amgylcheddol lleol, gweithredu gwirfoddolwyr ac effaith gymunedol.
Er bod pob etholaeth yn wynebu ei heriau a’i chyfleoedd unigryw ei hun, dylid ystyried y data yng nghyd-destun cymunedau lleol, tirweddau a mannau cyhoeddus. Yn hytrach na chymharu un ardal ag ardal arall, mae’r ffocws ar ddeall amgylchiadau lleol a nodi camau ymarferol a all sicrhau newid cadarnhaol.
Mae’r canfyddiadau’n rhan o sylfaen dystiolaeth ehangach a ddefnyddir gan Cadwch Gymru’n Daclus, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gefnogi atal sbwriel, gwella effeithiolrwydd glanhau, llywio polisi a chyfeirio adnoddau i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf.

Gallwch hefyd archwilio canlyniadau GLÂN byw, tueddiadau hanesyddol a gwybodaeth fanwl am arolygon lleol drwy Hyb Data Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a’r Mynegai Sbwriel Cymru, sy’n darparu mynediad at un o’r setiau data ansawdd amgylcheddol mwyaf helaeth sydd ar gael yn unrhyw le yn y byd.
Gweld ein data sbwriel
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i amgylcheddau lleol ledled Cymru.
Rydym yn cyflawni gweithredu ymarferol, addysg amgylcheddol, ac yn gosod safonau ar gyfer parciau a thraethau. Rydym hefyd yn arbenigwyr ym maes polisi ac ymchwil, gan gefnogi’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau ar faterion amgylcheddol.
Darllen ein strategaeth
Am ragor o wybodaeth, ewch i: keepwalestidy.cymru/cy/data-sbwriel/.
Data sbwriel