Data Cenedlaethol, Effaith Leol
Mae’n bwysig nodi bod ardaloedd Etholaethau yn fawr iawn ac yn cwmpasu amrywiaeth o ddaearyddiaeth a demograffeg (fel y mae llawer o awdurdodau lleol). Am y rheswm hwn, nid argymhellir ceisio ‘cymharu’ unrhyw ardal ag un arall, mae’r heriau gwledig o ran atal sbwriel a thipio anghyfreithlon a glanhau er enghraffit, yn wahanol iawn i’r heriau y mae ardaloedd trefol yn eu hwynebu. Yn ogystal, mae ein data yn cwmpasu ardaloedd lluosog o dir cyhoeddus, ac felly gallai adlewyrchu tirfeddiannwyr gwahanol, nid awdurdodau lleol yn unig.
Mae rhywfaint o’r data GLÂN a nodir isod o 2025 gan fod arolygon eleni yn mynd rhagddynt. Bydd set lawn o ddata ar gyfer 2026 ar gael o fis Rhagfyr a gall Cadwch Gymru’n Daclus ddiweddaru’r adroddiad data hwn yn unol â hynny os oes diddordeb.
Casnewydd Islwyn
Mae Casnewydd Islwyn, yn cwmpasu Casnewydd a rhannau o Gaerffili, yn arbennig o anodd i’w reoli o ran atal sbwriel oherwydd swyddedd trefol a hybiau trafnidiaeth lluosog a ffyrdd mawr. Nid yw’n syndod bod pecynnau bwyd a diod (neu sbwriel ‘wrth fynd’) yn arbennig o gyffredin a bod tipio anghyfreithlon wedi bod yn uwch na’r cyfartaledd (er gwaethaf sgorau ‘Strydlun’ is na’r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd eraill. Mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o’r graddau glendid is ar gyfer canol y ddinas ei hun, mae ardaloedd y cyrion yn llawer mwy cadarnhaol. Mae’r etholaeth wedi ei bendithio â gweithgaredd cymunedol sylweddol a nifer o randdeiliaid allweddol sydd yn weithgar iawn ac yn ymgysylltu ar y mater hwn.
- Yn 2025, roedd 41.5% o’r safleoedd a arolygwyd yn bodloni lefel ‘dderbyniol’ o lendid. Mae hyn yn cymharu â ffigur Cymru o 58%.
- O 2025 a hyd yn hyn yn 2026, rydym wedi cyfrif cyfanswm o 42288 o eitemau o sbwriel ar draws 594 o arolygon yn yr Etholaeth.
- Roedd gan 67% o’r safleoedd sbwriel yn ymwneud â diodydd yn bresennol – mater yr ydym yn gobeithio fydd lawer yn is trwy gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes. (Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 2025 oedd 56.7%)
- Rydym wedi cyfrif 5621 o eitemau o sbwriel yn ymwneud â diodydd hyd yn hyn yn yr ardal, 2063 ohonynt yn ganiau.
- Roedd gan 88% o safleoedd becynnau bwyd yn bresennol – byddai ymestyn cynllun presennol Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig i gynnwys sbwriel yn cefnogi’r gostyngiad hwn. (Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 2025 oedd 82.6%)
- Mae 2591 o eitemau o sbwriel pecynnau bwyd brys a 4667 o eitemau melysion wedi cael eu cyfrif hyd yn hyn.
- Mae 538 o eitemau o sbwriel yn ymwneud â fêpio a 19379 o sigaréts wedi cael eu cyfrif hyd yn hyn.
Gweithredu Lleol, Effaith Genedlaethol
Ni fyddai’n annheg dweud bod pob tirfeddiannwr tir cyhoeddus yn dibynnu’n helaeth ar ymdrechion gwirfoddolwyr i gadw mannau yn lân. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi ymdrechion miloedd o wirfoddolwyr ledled Cymru ond ni all gwirfoddolwyr weithredu heb gefnogaeth a pharhau i dyfu. P’un ai bod hyn trwy gymorth grwpiau newydd, offer, cydlynu neu ddathlu eu hymdrechion, mae swyddogion cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus ym mhob ardal yng Nghymru yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi preswylwyr a chymunedau i wella a chynnal ardaloedd lleol a thrawsnewid mannau yn fannau glân, gwyrdd o ansawdd uchel a hygyrch i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
Data 2025 ar gyfer Casnewydd Islwyn
Yn 2025, casglodd 831 o wirfoddolwyr 1792 o fagiau o sbwriel o ardal yr Etholaeth ar draws 402 o weithgareddau, gan ddod â’r cyfanswm i fwy na 1054 o oriau gwirfoddoli.
Data 2026 ar gyfer Casnewydd Islwyn
Hyd yn hyn yn 2026, mae 1521 o fagiau wedi cael eu casglu o ardal yr Etholaeth ac mae 411 o weithgareddau codi sbwriel wedi cael eu cynnal gyda 854 o gyfranogwyr.

Pa ddata mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei gasglu?
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn monitro sbwriel ers bron i ddau ddegawd. Cafodd ein methodoleg casglu a monitro data cadarn a pharhaus, sydd newydd gael ei ehangu (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol – GLÂN) ei ymgorffori yn 2025, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru). Mae hwn yn disodli arolygon blaenorol ‘LEAMS’. Nid gorddweud yw dweud mai dyma’r sysem monitro sbwriel ac ansawdd yr amgylchedd lleol mwyaf cynhwysfawr yn y byd.
Mae’n bwysig nodi, er ein bod hefyd yn casglu rhywfaint o ddata ychwanegol gan y miloedd o wirfoddolwyr codi sbwriel ledled Cymru, mae GLÂN yn cael ei wneud gan aelodau o staff sydd yn arolygwyr profiadol ac mae wedi cael ei gynllunio’n benodol i fesur effeithiau a chynnydd mesurau polisi ledled Cymru gyfan (ac ar gyfer pob awdurdod lleol).
Trwy GLÂN, rydym yn casglu data ar 70+ o gategorïau o eitemau sbwriel yn ogystal â materion eraill Ansawdd yr Amgylchedd Lleol, fel baw cŵn, tipio anghyfreithlon a graffiti. Mae pob math o dir cyhoeddus (hy; Parciau, strydoedd, traethau) yn cael eu harolygu gyda rhai eithriadau wedi eu cyfyngu gan fynediad neu berchnogaeth. Mae lefelau’r sbwriel yn troi’n system raddio sy’n ddealladwy i Awdurdodau Lleol ac sy’n gysylltiedig â chanllawiau statudol ar safonau glendid.
Mae data sbwriel ‘byw’ ar gyfer eleni a data cryno o 2025 ar gael ar dudalen Data Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus.
Gallwch weld ein harolygon unigol presennol a blaenorol trwy dudalen Mynegai Sbwriel Cymru.
Beth yw’r tueddiadau presennol?
Er ein bod wedi gweld gostyngiad cyffredinol ers y llinell sylfaen yn 2007/ 08, mae rhai mathau o sbwriel wedi bod yn cynyddu, bwyd a diod ‘wrth fynd’ yn bennaf, yn ogystal â thueddiadau defnyddwyr newydd fel fêps a chistiau N2O. Mae glanhau yn swyddogaeth statudol ond mae wedi cael ei effeithio’n wael gan bwysau cyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ac mae llawer o gynghorau wedi symud i wasanaethau mwy adweithiol – gan ymateb i gwynion yn hytrach na chael eu harwain gan y data. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth cynyddol rhwng ardaloedd gydag ardaloedd mwy difreintiedig 2.6 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o ansawdd amgylcheddol lleol gwaeth nag ardaloedd mwy cefnog.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn bryderus bod sbwriel ar gynnydd. Yn 2025, dim ond 58% o fannau cyhoeddus a arolygwyd oedd yn bodloni lefelau ‘derbyniol’ o lendid gydag ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 2.6× yn fwy tebygol o fethu’r trothwy glendid.
Ar gyfer beth ydyn ni’n defnyddio’r data?
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu data ar gyfer swyddogion amrywiol. Yn bennaf, mae hyn trwy dimau Ansawdd yr Amgylchedd Lleol a CDE yn Llyworaeth Cymru sy’n ariannu’r system, ond rydym hefyd yn darparu data i adrannau eraill fel y tîm Camddefnyddio Sylweddau i helpu i dargedu ymdrechion lleihau niwed trwy Fyrddau Iechyd Lleol.
Mae’r data yn cael ei rannu gyda llawer o randdeiliaid, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, ac rydym wedi gweithredu system hysbysu i’w helpu i ymateb i faterion sylweddol pan fyddant yn codi, gan helpu i ffurfio effeithlonrwydd gweithredol. Rydym hefyd yn mynd i ymgysylltu â pherchnogion tir i gynyddu gweithio ar y cyd a phartneriaethau.
Yn fewnol, mae’r data hefyd yn cael ei rannu gyda swyddogion cymunedol sydd yn gallu helpu i gyfeirio ymdrechion gwirfoddoli i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf (neu greu grwpiau newydd). Mae’r tîm Polisi sy’n cynnal yr arolygon yn Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn ymarferwyr newid ymddygiad ac yn defnyddio’r data i gynghori ar weithgareddau atal ar y ddaear ac yn cynhyrchu papurau canllaw wedi eu harwain gan ymddygiad i rannu arfer gorau.
Hoffech chi drafod ein data?
Os hoffech drafod ein data neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
E-bostiwch ni