label_skip_to_main
English
2025-26

Adroddiad Effaith Etholaeth Cadwch Gymru’n Daclus

Gwynedd Maldwyn Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Data Cenedlaethol, Effaith Leol

Mae’n bwysig nodi bod ardaloedd Etholaethau yn fawr iawn ac yn cwmpasu amrywiaeth o ddaearyddiaeth a demograffeg (fel y mae llawer o awdurdodau lleol). Am y rheswm hwn, nid argymhellir ceisio ‘cymharu’ unrhyw ardal ag un arall, mae’r heriau gwledig o ran atal sbwriel a thipio anghyfreithlon a glanhau er enghraffit, yn wahanol iawn i’r heriau y mae ardaloedd trefol yn eu hwynebu. Yn ogystal, mae ein data yn cwmpasu ardaloedd lluosog o dir cyhoeddus, ac felly gallai adlewyrchu tirfeddiannwyr gwahanol, nid awdurdodau lleol yn unig.

Mae rhywfaint o’r data GLÂN a nodir isod o 2025 gan fod arolygon eleni yn mynd rhagddynt. Bydd set lawn o ddata ar gyfer 2026 ar gael o fis Rhagfyr a gall Cadwch Gymru’n Daclus ddiweddaru’r adroddiad data hwn yn unol â hynny os oes diddordeb.

Gwynedd Maldwyn

Mae ardal Gwynedd Maldwyn yn ardal o dirweddau eithriadol ac yn ardal wledig iawn. Ffactorau hanfodol sy’n effeithio ar sbwriel yn yr ardaloedd hyn, yn rhannol o leiaf, yw nifer uchel yr ymwelwyr. Gall amrywiadau yn nifer yr ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn fod yn anodd i’w rheoli ac yn ddiweddar, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyflwyno ymateb ymgynghori i Gynghorau’r Gogledd-orllewin yn awgrymu y gellid defnyddio rhan o’r Ardoll Ymwelwyr i fynd i’r afael â’r heriau hyn, yn arbennig gan ein bod yn gwybod bod sbwriel yn cael effaith ar benderfyniadau ymwelwyr i ddychwelyd i ardal. Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn ymgysylltu â’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru i helpu i atal sbwriel mewn cyrchfannau allweddol a mannau lle mae problemau lle nad yw cyfleusterau traddodiadol, fel biniau, yn ymarferol.

  • Yn 2025, roedd 64.2% o’r safleoedd a arolygwyd yn bodloni lefel ‘dderbyniol’ o lendid. Mae hyn yn cymharu â ffigur Cymru o 58%.
  • O 2025 a hyd yn hyn yn 2026, rydym wedi cyfrif cyfanswm o 22762 o eitemau o sbwriel ar draws 766 o arolygon yn yr Etholaeth.
  • Roedd gan 45.4% o’r safleoedd sbwriel yn ymwneud â diodydd yn bresennol – mater yr ydym yn gobeithio fydd lawer yn is trwy gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes. (Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 2025 oedd 56.7%)
  • Rydym wedi cyfrif 1968 o eitemau o sbwriel yn ymwneud â diodydd hyd yn hyn yn yr ardal, 596 ohonynt yn ganiau.
  • Roedd gan 83.1% o safleoedd becynnau bwyd yn bresennol – byddai ymestyn cynllun presennol Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig i gynnwys sbwriel yn cefnogi’r gostyngiad hwn. (Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 2025 oedd 82.6%)
  • Mae 1192 o eitemau o sbwriel pecynnau bwyd brys a 3113 o eitemau melysion wedi cael eu cyfrif hyd yn hyn.
  • Mae 236 o eitemau o sbwriel yn ymwneud â fêpio a 10755 o sigaréts wedi cael eu cyfrif hyd yn hyn.

Gweithredu Lleol, Effaith Genedlaethol

Ni fyddai’n annheg dweud bod pob tirfeddiannwr tir cyhoeddus yn dibynnu’n helaeth ar ymdrechion gwirfoddolwyr i gadw mannau yn lân. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi ymdrechion miloedd o wirfoddolwyr ledled Cymru ond ni all gwirfoddolwyr weithredu heb gefnogaeth a pharhau i dyfu. P’un ai bod hyn trwy gymorth grwpiau newydd, offer, cydlynu neu ddathlu eu hymdrechion, mae swyddogion cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus ym mhob ardal yng Nghymru yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi preswylwyr a chymunedau i wella a chynnal ardaloedd lleol a thrawsnewid mannau yn fannau glân, gwyrdd o ansawdd uchel a hygyrch i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Data 2025 ar gyfer Gwynedd Maldwyn

Yn 2025, casglodd 4783 o wirfoddolwyr 6384 o fagiau o sbwriel o ardal yr Etholaeth ar draws 1762 o weithgareddau, gan ddod â’r cyfanswm i fwy na 6167 o oriau gwirfoddoli. (ar gyfer cyd-destun, mae hynny’n gyfwerth â ryw 3 CALl mewn blwyddyn yn unig!) 

4783 o wirfoddolwyr
6384 bagiau o sbwriel wedi’u casglu
1762 o weithgareddau

Data 2026 ar gyfer Gwynedd Maldwyn

Hyd yn hyn yn 2026, mae 4999 o fagiau wedi cael eu casglu o ardal yr Etholaeth ac mae 1461 o weithgareddau codi sbwriel wedi cael eu cynnal gyda 3448 o gyfranogwyr.

4999 bagiau o sbwriel wedi’u casglu
1461 o weithgareddau casglu sbwriel
3448 o gyfranogwyr

Pa ddata mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei gasglu?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn monitro sbwriel ers bron i ddau ddegawd. Cafodd ein methodoleg casglu a monitro data cadarn a pharhaus, sydd newydd gael ei ehangu (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol – GLÂN) ei ymgorffori yn 2025, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru). Mae hwn yn disodli arolygon blaenorol ‘LEAMS’. Nid gorddweud yw dweud mai dyma’r sysem monitro sbwriel ac ansawdd yr amgylchedd lleol mwyaf cynhwysfawr yn y byd. 

Mae’n bwysig nodi, er ein bod hefyd yn casglu rhywfaint o ddata ychwanegol gan y miloedd o wirfoddolwyr codi sbwriel ledled Cymru, mae GLÂN yn cael ei wneud gan aelodau o staff sydd yn arolygwyr profiadol ac mae wedi cael ei gynllunio’n benodol i fesur effeithiau a chynnydd mesurau polisi ledled Cymru gyfan (ac ar gyfer pob awdurdod lleol). 

Trwy GLÂN, rydym yn casglu data ar 70+ o gategorïau o eitemau sbwriel yn ogystal â materion eraill Ansawdd yr Amgylchedd Lleol, fel baw cŵn, tipio anghyfreithlon a graffiti. Mae pob math o dir cyhoeddus (hy; Parciau, strydoedd, traethau) yn cael eu harolygu gyda rhai eithriadau wedi eu cyfyngu gan fynediad neu berchnogaeth. Mae lefelau’r sbwriel yn troi’n system raddio sy’n ddealladwy i Awdurdodau Lleol ac sy’n gysylltiedig â chanllawiau statudol ar safonau glendid.

Mae data sbwriel ‘byw’ ar gyfer eleni a data cryno o 2025 ar gael ar dudalen Data Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus.

Gallwch weld ein harolygon unigol presennol a blaenorol trwy dudalen Mynegai Sbwriel Cymru.  

Data Sbwriel Mynegai Sbwriel Cymru

Beth yw’r tueddiadau presennol?

Er ein bod wedi gweld gostyngiad cyffredinol ers y llinell sylfaen yn 2007/ 08, mae rhai mathau o sbwriel wedi bod yn cynyddu, bwyd a diod ‘wrth fynd’ yn bennaf, yn ogystal â thueddiadau defnyddwyr newydd fel fêps a chistiau N2O. Mae glanhau yn swyddogaeth statudol ond mae wedi cael ei effeithio’n wael gan bwysau cyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ac mae llawer o gynghorau wedi symud i wasanaethau mwy adweithiol – gan ymateb i gwynion yn hytrach na chael eu harwain gan y data. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth cynyddol rhwng ardaloedd gydag ardaloedd mwy difreintiedig 2.6 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o ansawdd amgylcheddol lleol gwaeth nag ardaloedd mwy cefnog.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn bryderus bod sbwriel ar gynnydd. Yn 2025, dim ond 58% o fannau cyhoeddus a arolygwyd oedd yn bodloni lefelau ‘derbyniol’ o lendid gydag ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 2.6× yn fwy tebygol o fethu’r trothwy glendid. 

Ar gyfer beth ydyn ni’n defnyddio’r data?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu data ar gyfer swyddogion amrywiol. Yn bennaf, mae hyn trwy dimau Ansawdd yr Amgylchedd Lleol a CDE yn Llyworaeth Cymru sy’n ariannu’r system, ond rydym hefyd yn darparu data i adrannau eraill fel y tîm Camddefnyddio Sylweddau i helpu i dargedu ymdrechion lleihau niwed trwy Fyrddau Iechyd Lleol.

Mae’r data yn cael ei rannu gyda llawer o randdeiliaid, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, ac rydym wedi gweithredu system hysbysu i’w helpu i ymateb i faterion sylweddol pan fyddant yn codi, gan helpu i ffurfio effeithlonrwydd gweithredol. Rydym hefyd yn mynd i ymgysylltu â pherchnogion tir i gynyddu gweithio ar y cyd a phartneriaethau.

Yn fewnol, mae’r data hefyd yn cael ei rannu gyda swyddogion cymunedol sydd yn gallu helpu i gyfeirio ymdrechion gwirfoddoli i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf (neu greu grwpiau newydd). Mae’r tîm Polisi sy’n cynnal yr arolygon yn Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn ymarferwyr newid ymddygiad ac yn defnyddio’r data i gynghori ar weithgareddau atal ar y ddaear ac yn cynhyrchu papurau canllaw wedi eu harwain gan ymddygiad i rannu arfer gorau.

Hoffech chi drafod ein data?

Os hoffech drafod ein data neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

 

E-bostiwch ni
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13