label_skip_to_main
English
2025-26

Adroddiadau Effaith Etholaeth Cadwch Gymru'n Daclus

Pen-y-bont Bro Morgannwg Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Data cenedlaethol, effaith leol

Darganfyddwch ansawdd yr amgylchedd, gweithredu cymunedol a gwirfoddoli yn eich etholaeth. Mae’r adroddiadau hyn yn dwyn ynghyd y data GLÂN diweddaraf a mewnwelediadau lleol er mwyn tynnu sylw at faterion allweddol, llwyddiannau a chyfleoedd ar gyfer newid cadarnhaol.

Mae’n bwysig nodi bod etholaethau’n ardaloedd mawr sy’n cwmpasu ystod eang o ddaearyddiaethau a demograffeg, fel sy’n wir am lawer o awdurdodau lleol. Am y rheswm hwn, ni argymhellir gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng ardaloedd. Er enghraifft, gall yr heriau sy’n gysylltiedig ag atal a chlirio sbwriel a thipio anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig fod yn wahanol iawn i’r rhai a wynebir mewn ardaloedd trefol. Yn ogystal, mae ein data’n cwmpasu nifer o ardaloedd o dir cyhoeddus ac felly gall adlewyrchu perfformiad nifer o wahanol dirfeddianwyr, nid awdurdodau lleol yn unig.

Mae rhywfaint o’r data GLÂN a gyflwynir isod yn dod o 2025, gan fod arolygon ar gyfer eleni yn dal i fynd rhagddynt. Bydd set ddata gyflawn ar gyfer 2026 ar gael o fis Rhagfyr. Os bydd diddordeb, gall Cadwch Gymru’n Daclus ddiweddaru’r adroddiad hwn i gynnwys y data diweddaraf.

Pen-y-bont Bro Morgannwg

Yn rhychwantu Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, mae’r etholaeth hon yn cynnwys ardaloedd â gwahaniaethau daearyddol a demograffig penodol sydd yn arwain at y glendid rydym yn ei weld ar y ddaear. Er bod llawer iawn o weithgaredd cymunedol yn yr ardal, mae’n tueddu i ganolbwyntio ar draethau ac ardaloedd arfordirol a allai roi cyfrif am y rheswm pam mae rhai o’r ardaloedd lle mae problemau mewn anheddau mwy mewndirol a chanolfannau masnachol. Mae ein cyngor atal yn cynnwys cymorth cymunedol ychwanegol (neu wyro) yn ogystal â chanolbwyntio ar rai ardaloedd allweddol sy’n peri pryder, sydd yn cynnwys ardaloedd trafnidiaeth a masnachol.

  • Yn 2025, roedd 69.3% o’r safleoedd a arolygwyd yn bodloni lefel ‘dderbyniol’ o lendid. Mae hyn yn cymharu â ffigur Cymru o 58%.
  • O 2025 a hyd yn hyn yn 2026, rydym wedi cyfrif cyfanswm o 13793 o eitemau o sbwriel ar draws 629 o arolygon yn yr Etholaeth.
  • Roedd gan 47.8% o’r safleoedd sbwriel yn ymwneud â diodydd yn bresennol – mater yr ydym yn gobeithio fydd lawer yn is trwy gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes. (Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 2025 oedd 56.7%)
  • Rydym wedi cyfrif 1851 o eitemau o sbwriel yn ymwneud â diodydd hyd yn hyn yn yr ardal, 799 ohonynt yn ganiau.
  • Roedd gan 79.4% o safleoedd becynnau bwyd yn bresennol – byddai ymestyn cynllun presennol Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig i gynnwys sbwriel yn cefnogi’r gostyngiad hwn. (Y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 2025 oedd 82.6%)
  • Mae 980 o eitemau o sbwriel pecynnau bwyd brys a 1720 o eitemau melysion wedi cael eu cyfrif hyd yn hyn.
  • Mae 288 o eitemau o sbwriel yn ymwneud â fêpio a 5543 o sigaréts wedi cael eu cyfrif hyd yn hyn.

Gweithredu lleol, effaith genedlaethol

Mae’n deg dweud bod perchnogion tir cyhoeddus ledled Cymru yn dibynnu’n helaeth ar ymdrechion gwirfoddolwyr i helpu i gadw mannau’n lân. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi miloedd o fentrau gwirfoddoli, ond mae gwirfoddolwyr angen cefnogaeth barhaus i gynnal a chynyddu eu heffaith. Boed hynny drwy helpu grwpiau newydd i ddechrau, darparu offer, cydlynu gweithgareddau neu ddathlu cyflawniadau, mae Swyddogion Cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus yn chwarae rhan hanfodol ym mhob rhan o Gymru. Drwy gefnogi preswylwyr a chymunedau i wella, cyfoethogi a chynnal ardaloedd lleol, maent yn helpu i drawsnewid mannau yn amgylcheddau glân, gwyrdd, hygyrch ac o ansawdd uchel sy’n fuddiol i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Data 2025 ar gyfer Pen-y-bont Bro Morgannwg

Yn 2025, casglodd 5384 o wirfoddolwyr 5058 o fagiau o sbwriel o ardal yr Etholaeth ar draws 1597 o weithgareddau, gan ddod â’r cyfanswm i fwy na 12781 o oriau gwirfoddoli. (ar gyfer cyd-destun, mae hyn yn gyfystyr â 6 CALl mewn blwyddyn yn unig!)  

5384 o wirfoddolwyr
5058 bagiau o sbwriel wedi’u casglu
1597 o weithgareddau

Data 2026 ar gyfer Pen-y-bont Bro Morgannwg

Hyd yn hyn yn 2026, mae 4117 o fagiau wedi cael eu casglu o ardal yr Etholaeth ac mae 1533 o weithgareddau codi sbwriel wedi cael eu cynnal gyda 3804 o gyfranogwyr.

4117 bagiau o sbwriel wedi’u casglu
1533 o weithgareddau casglu sbwriel
3804 o gyfranogwyr

Pa ddata mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei gasglu?

Ers bron i ddau ddegawd, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn monitro sbwriel ac ansawdd yr amgylchedd lleol ledled Cymru. Yn 2025, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd ein rhaglen estynedig, Dadansoddiad Geofodol o Sbwriel (GLÂN), sy’n darparu dull parhaus ac ystadegol gadarn o gasglu a monitro data. Mae GLÂN yn disodli’r arolygon LEAMS blaenorol ac yn darparu dealltwriaeth gyfoethocach o ansawdd yr amgylchedd lleol nag erioed o’r blaen. Nid yw’n or-ddweud dweud bod hyn yn cynrychioli un o’r systemau monitro sbwriel ac ansawdd amgylcheddol lleol mwyaf cynhwysfawr yn y byd.

Mae’n bwysig nodi, er ein bod hefyd yn casglu gwybodaeth ychwanegol gan y miloedd lawer o wirfoddolwyr codi sbwriel ledled Cymru, fod arolygon GLÂN yn cael eu cynnal gan arolygwyr maes profiadol. Mae’r fethodoleg wedi’i chynllunio’n benodol i fesur effaith a chynnydd ymyriadau polisi ledled Cymru ac o fewn pob ardal awdurdod lleol.

Trwy GLÂN, rydym yn casglu data ar fwy na 70 o gategorïau sbwriel, ynghyd â dangosyddion eraill o Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (LEQ), megis baeddu gan gŵn, tipio anghyfreithlon a graffiti. Mae arolygon yn cwmpasu bron pob math o dir cyhoeddus, gan gynnwys parciau, strydoedd a thraethau, gyda dim ond ychydig eithriadau oherwydd cyfyngiadau mynediad neu berchnogaeth. Caiff lefelau sbwriel a gofnodir eu trosi i system raddio gydnabyddedig a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ac sy’n gysylltiedig â safonau glendid statudol.

Mae data sbwriel ‘byw’ ar gyfer eleni a data cryno o 2025 ar gael ar dudalen Data Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus.

Gallwch weld ein harolygon unigol presennol a blaenorol trwy dudalen Mynegai Sbwriel Cymru.  

Data Sbwriel Mynegai Sbwriel Cymru

Beth yw’r tueddiadau presennol?

Er ein bod wedi gweld gostyngiad cyffredinol ers y llinell sylfaen yn 2007/ 08, mae rhai mathau o sbwriel wedi bod yn cynyddu, bwyd a diod ‘wrth fynd’ yn bennaf, yn ogystal â thueddiadau defnyddwyr newydd fel fêps a chistiau N2O.

Mae glanhau yn swyddogaeth statudol ond mae wedi cael ei effeithio’n wael gan bwysau cyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ac mae llawer o gynghorau wedi symud i wasanaethau mwy adweithiol – gan ymateb i gwynion yn hytrach na chael eu harwain gan y data. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth cynyddol rhwng ardaloedd gydag ardaloedd mwy difreintiedig 2.6 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o ansawdd amgylcheddol lleol gwaeth nag ardaloedd mwy cefnog.

Mae canfyddiadau Cadwch Gymru’n Daclus trwy GLÂN yn dangos bod sbwriel yn parhau i fod yn her sylweddol ledled Cymru. Yn 2025, dim ond 58% o’r mannau cyhoeddus a arolygwyd oedd yn cyrraedd safonau glendid derbyniol, gyda’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru 2.6 gwaith yn fwy tebygol o fethu’r trothwy glendid. Mae hyn yn amlygu anghydraddoldebau parhaus yn ansawdd yr amgylchedd lleol.

Ar gyfer beth ydyn ni’n defnyddio’r data?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, gan ddarparu data a mewnwelediadau sy’n cefnogi amrywiaeth o flaenoriaethau polisi a gweithredol. Gwneir hyn yn bennaf drwy’r timau Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (LEQ) a Chynllun Dychwelyd Ernes (DRS), sy’n ariannu rhaglen GLÂN, ond mae ein data hefyd yn cefnogi adrannau eraill. Er enghraifft, rhennir gwybodaeth gyda’r tîm Camddefnyddio Sylweddau i helpu i dargedu gweithgareddau lleihau niwed drwy Fyrddau Iechyd Lleol.

Mae data GLÂN yn cael ei rannu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i helpu i lywio penderfyniadau a sbarduno gweithredu ar lawr gwlad. Rydym wedi sefydlu system hysbysu sy’n galluogi partneriaid i ymateb yn gyflym i faterion arwyddocaol wrth iddynt godi, gan wella effeithlonrwydd gweithredol a chefnogi ymyriadau amserol. Rydym hefyd yn gweithio gyda thirfeddianwyr cyhoeddus eraill i gryfhau cydweithio, meithrin partneriaethau ac annog dull mwy cydgysylltiedig o wella amgylcheddau lleol.

O fewn Cadwch Gymru’n Daclus, mae’r data yn llywio gwaith y Swyddogion Cymunedol, gan helpu i gyfeirio gweithgarwch gwirfoddol i’r ardaloedd lle mae’r angen mwyaf ac i nodi cyfleoedd i sefydlu grwpiau newydd. Mae’r tîm Polisi, sy’n cynnal yr arolygon, hefyd yn arbenigwyr ar newid ymddygiad. Gan ddefnyddio mewnwelediadau GLÂN, maent yn darparu cyngor ymarferol ar fesurau atal, yn cefnogi ymyriadau wedi’u targedu ac yn cynhyrchu canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i rannu arferion gorau a hyrwyddo ymddygiadau amgylcheddol cadarnhaol ledled Cymru.

Hoffech chi drafod ein data?

Os hoffech drafod ein data neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

 

E-bostiwch ni
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13