label_skip_to_main
English
2025 - 2026

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Powys Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Powys

Ers mis Ebrill 2025, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn treialu GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol), dull newydd, mwy uchelgeisiol o fonitro sbwriel ledled Cymru. Gan symud y tu hwnt i strydoedd mabwysiedig, mae GLÂN yn casglu data ar draws pob man cyhoeddus, gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, traethau, meysydd parcio a chanolfannau trafnidiaeth, gan ddarparu darlun mwy cynhwysfawr a chywir o ansawdd amgylcheddol lleol.

Mae GLÂN yn sefydlu sylfaen genedlaethol newydd, felly ni ellir cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data blaenorol LEAMS. Yn hytrach, mae’n cynnig set ddata fwy cyfoethog i lywio ymyriadau mwy targedig ac effeithiol. Gyda mewnwelediadau manwl ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol iawn, mae GLÂN yn helpu awdurdodau lleol a rheolwyr tir i wella cynllunio, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd gweithredol.

Methodoleg

Mae’r fethodoleg yn cofnodi dros 70 o eitemau a grwpiau sbwriel, ynghyd â graddau glendid sy’n cyd-fynd â safonau COPLAR (gyda graddau A a B yn adlewyrchu lefelau derbyniol yn fras o dan LEAMS). Mae hefyd yn cyflwyno graddau ‘golygfa stryd’, sy’n cwmpasu dangosyddion ehangach o ansawdd amgylcheddol megis graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a chyflwr seilwaith. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos cysylltiad cryf rhwng lefelau sbwriel a’r ffactorau ehangach hyn, gan atgyfnerthu’r ffaith bod lleoedd glân, wedi’u rheoli’n dda yn dibynnu ar fwy na sbwriel yn unig.

Ym Mhowys, cyrhaeddodd 74.8% o’r ardaloedd a arolygwyd safon dderbyniol o lendid, gyda mannau hamdden yn perfformio orau ymhlith y mathau o dir a aseswyd. Cofnododd ardaloedd masnachol y lefelau isaf o lendid.

Yn gyffredinol, cyflawnodd 89.0% o’r safleoedd raddau A neu B ar gyfer golygfa stryd, er i bresenoldeb o dipio anghyfreithlon gael ei nodi mewn 9.4% o’r safleoedd.

Y cyfartaledd (canolrif) o nifer y darnau o sbwriel ar gyfer y safleoedd a arolygwyd oedd 12.5.

Canfuwyd bod 73.6% o’r safleoedd a arolygwyd yn cynnwys eitemau sy’n dod o dan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynnu Bwyd a Diod wedi’i daflu. Canfuwyd bod 37.8% o’r safleoedd yn cynnwys sbwriel diodydd sydd o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae’r ffigurau hyn yn amlygu’r effaith sylweddol y gellid ei sicrhau drwy bolisïau cenedlaethol wedi’u dylunio’n effeithiol yn y meysydd hyn.

Er hynny, mae rhesymau cryf dros fod yn obeithiol. Mae cynnydd ar fesurau polisi allweddol fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) a Chynllun Dychwelyd Blaendal (DRS) yng Nghymru yn dangos momentwm cynyddol i leihau gwastraff wrth ei ffynhonnell a symud cyfrifoldeb tuag at y cynhyrchwyr, gan helpu i greu economi fwy cylchol. Ar yr un pryd, mae gweithredu cymunedol yn parhau i gael effaith sylweddol: mae mwy na 40,568 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi tynnu dros 730,000kg o wastraff, gyda chefnogaeth dros 490 o Hybiau Codi Sbwriel a 458 o Ardaloedd Di-Sbwriel. Mae hyn yn dangos grym newid systemau ar y cyd a gweithredu ar lefel gymunedol wrth fynd i’r afael â sbwriel a diogelu amgylchedd Cymru.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgarwch a ariennir, ond hefyd yn tanlinellu’r angen am ymateb cadarn ac unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am GLÂN a’r data rydym yn ei gasglu, neu os hoffech wybod mwy am weithio gyda ni, cysylltwch â ni ar:  LEQ@Keepwalestidy.cymru 

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff ym Mhowys

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Powys rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 8,019 bag o sbwriel o 1,900 lleoliad, sy’n cynrychioli 40,095 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 10,411 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £104,110 i economi Cymru.
  • Mae gennym 12 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 18 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
8,019 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
1,900 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
40,095 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
10,411 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
12 Hybiau Codi Sbwriel
18 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd ym Mhowys

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ym Mhowys mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 356 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 17 yn ardal Powys.
  • Mae 4 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 7 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 9 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
17 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
4 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
7 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
9 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol ym Mhowys

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli gwobrau rhyngwladol enwog y Faner Las, Gwobrau’r Arfordir, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a gwobrau’r Allwedd Werdd. Mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ym Mhowys ceir:

  • 1 Baner wedi ei dyfarnu'n llawn mewn parciau a nammau gwyrdd.
  • 11 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 12 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
1 Baner Werdd wedi eu Dyfarnu’n llawn yn chwifio
11 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
12 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc ym Mhowys

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Gwnaethom hefyd gyflwyno cystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru lwyddiannus ledled Cymru, gan hyrwyddo arloesedd a datrys problemau creadigol i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd. Wedi’i hysbrydoli gan Y Wobr Earthshot, ymgysylltodd yr her ag ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys dysgwyr 5 i 18 oed ac annog datblygiad atebion beiddgar ac ymarferol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf ym Mhowys:

  • Mae 48 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 19 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 58 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 22 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 26 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
48 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
58 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
22 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
26 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
19 Ysgolion â Gwobr Platinwm
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13