label_skip_to_main
English
2025 - 2026

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Sir Ddinbych Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Sir Ddinbych

Ers mis Ebrill 2025, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn treialu GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol), dull newydd, mwy uchelgeisiol o fonitro sbwriel ledled Cymru. Gan symud y tu hwnt i strydoedd mabwysiedig, mae GLÂN yn casglu data ar draws pob man cyhoeddus, gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, traethau, meysydd parcio a chanolfannau trafnidiaeth, gan ddarparu darlun mwy cynhwysfawr a chywir o ansawdd amgylcheddol lleol.

Mae GLÂN yn sefydlu sylfaen genedlaethol newydd, felly ni ellir cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data blaenorol LEAMS. Yn hytrach, mae’n cynnig set ddata fwy cyfoethog i lywio ymyriadau mwy targedig ac effeithiol. Gyda mewnwelediadau manwl ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol iawn, mae GLÂN yn helpu awdurdodau lleol a rheolwyr tir i wella cynllunio, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd gweithredol.

Methodoleg

Mae’r fethodoleg yn cofnodi dros 70 o eitemau a grwpiau sbwriel, ynghyd â graddau glendid sy’n cyd-fynd â safonau COPLAR (gyda graddau A a B yn adlewyrchu lefelau derbyniol yn fras o dan LEAMS). Mae hefyd yn cyflwyno graddau ‘golygfa stryd’, sy’n cwmpasu dangosyddion ehangach o ansawdd amgylcheddol megis graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a chyflwr seilwaith. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos cysylltiad cryf rhwng lefelau sbwriel a’r ffactorau ehangach hyn, gan atgyfnerthu’r ffaith bod lleoedd glân, wedi’u rheoli’n dda yn dibynnu ar fwy na sbwriel yn unig.

Yn Sir Ddinbych, cyrhaeddodd 64.4% o’r ardaloedd a arolygwyd safon dderbyniol o lendid, gyda mannau preswyl yn perfformio orau ymhlith y mathau o dir a aseswyd. Cofnododd ardaloedd trafnidiaeth y lefelau isaf o lendid.

Yn gyffredinol, cyflawnodd 88.8% o’r safleoedd raddau A neu B ar gyfer golygfa stryd, er i bresenoldeb o dipio anghyfreithlon gael ei nodi mewn 6.4% o’r safleoedd.

Y cyfartaledd (canolrif) o nifer y darnau o sbwriel ar gyfer y safleoedd a arolygwyd oedd 19.

Canfuwyd bod 81.6% o’r safleoedd a arolygwyd yn cynnwys eitemau sy’n dod o dan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynnu Bwyd a Diod wedi’i daflu. Canfuwyd bod 50.8% o’r safleoedd yn cynnwys sbwriel diodydd sydd o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae’r ffigurau hyn yn amlygu’r effaith sylweddol y gellid ei sicrhau drwy bolisïau cenedlaethol wedi’u dylunio’n effeithiol yn y meysydd hyn.

Er hynny, mae rhesymau cryf dros fod yn obeithiol. Mae cynnydd ar fesurau polisi allweddol fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) a Chynllun Dychwelyd Blaendal (DRS) yng Nghymru yn dangos momentwm cynyddol i leihau gwastraff wrth ei ffynhonnell a symud cyfrifoldeb tuag at y cynhyrchwyr, gan helpu i greu economi fwy cylchol. Ar yr un pryd, mae gweithredu cymunedol yn parhau i gael effaith sylweddol: mae mwy na 40,568 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi tynnu dros 730,000kg o wastraff, gyda chefnogaeth dros 490 o Hybiau Codi Sbwriel a 458 o Ardaloedd Di-Sbwriel. Mae hyn yn dangos grym newid systemau ar y cyd a gweithredu ar lefel gymunedol wrth fynd i’r afael â sbwriel a diogelu amgylchedd Cymru.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgarwch a ariennir, ond hefyd yn tanlinellu’r angen am ymateb cadarn ac unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am GLÂN a’r data rydym yn ei gasglu, neu os hoffech wybod mwy am weithio gyda ni, cysylltwch â ni ar:  LEQ@Keepwalestidy.cymru 

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yn Sir Ddinbych

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Sir Ddinbych rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 1,514 bag o sbwriel o 276 lleoliad, sy’n cynrychioli 7,570 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 1,947 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £19,470 i economi Cymru.
  • Mae gennym 8 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 3 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
1,514 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
276 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
7,570 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
1,947 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
8 Hybiau Codi Sbwriel
3 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Sir Ddinbych

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Ddinbych mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 356 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 21 yn ardal Sir Ddinbych.
  • Mae 8 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 7 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 15 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
21 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
8 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
7 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
15 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Sir Ddinbych

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli gwobrau rhyngwladol enwog y Faner Las, Gwobrau’r Arfordir, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a gwobrau’r Allwedd Werdd. Mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Ddinbych ceir:

  • 12 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 12 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 2 o draethau wedi cyflawni statws Gwobr Glan Môr – y statws cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau
12 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
12 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
2 Gwobr Glan Môr a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Sir Ddinbych

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Gwnaethom hefyd gyflwyno cystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru lwyddiannus ledled Cymru, gan hyrwyddo arloesedd a datrys problemau creadigol i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd. Wedi’i hysbrydoli gan Y Wobr Earthshot, ymgysylltodd yr her ag ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys dysgwyr 5 i 18 oed ac annog datblygiad atebion beiddgar ac ymarferol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Ddinbych:

  • Mae 34 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 15 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 39 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 6 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 23 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
34 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
39 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
6 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
23 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
15 Ysgolion â Gwobr Platinwm
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13