Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Ynys Môn
Ers mis Ebrill 2025, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn treialu GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol), dull newydd, mwy uchelgeisiol o fonitro sbwriel ledled Cymru. Gan symud y tu hwnt i strydoedd mabwysiedig, mae GLÂN yn casglu data ar draws pob man cyhoeddus, gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, traethau, meysydd parcio a chanolfannau trafnidiaeth, gan ddarparu darlun mwy cynhwysfawr a chywir o ansawdd amgylcheddol lleol.
Mae GLÂN yn sefydlu sylfaen genedlaethol newydd, felly ni ellir cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data blaenorol LEAMS. Yn hytrach, mae’n cynnig set ddata fwy cyfoethog i lywio ymyriadau mwy targedig ac effeithiol. Gyda mewnwelediadau manwl ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol iawn, mae GLÂN yn helpu awdurdodau lleol a rheolwyr tir i wella cynllunio, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd gweithredol.

Methodoleg
Mae’r fethodoleg yn cofnodi dros 70 o eitemau a grwpiau sbwriel, ynghyd â graddau glendid sy’n cyd-fynd â safonau COPLAR (gyda graddau A a B yn adlewyrchu lefelau derbyniol yn fras o dan LEAMS). Mae hefyd yn cyflwyno graddau ‘golygfa stryd’, sy’n cwmpasu dangosyddion ehangach o ansawdd amgylcheddol megis graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a chyflwr seilwaith. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos cysylltiad cryf rhwng lefelau sbwriel a’r ffactorau ehangach hyn, gan atgyfnerthu’r ffaith bod lleoedd glân, wedi’u rheoli’n dda yn dibynnu ar fwy na sbwriel yn unig.
Yn Ynys Môn, cyrhaeddodd 76.8% o’r ardaloedd a arolygwyd safon dderbyniol o lendid, gyda safleoedd dŵr ymdrochi yn perfformio orau ymhlith y mathau o dir a aseswyd. Cofnododd ardaloedd trafnidiaeth y lefelau isaf o lendid.
Yn gyffredinol, cyflawnodd 92.5% o’r safleoedd raddau A neu B ar gyfer golygfa stryd, er i bresenoldeb o dipio anghyfreithlon gael ei nodi mewn 3.3% o’r safleoedd.
Y cyfartaledd (canolrif) o nifer y darnau o sbwriel ar gyfer y safleoedd a arolygwyd oedd 13.
Canfuwyd bod 78.8% o’r safleoedd a arolygwyd yn cynnwys eitemau sy’n dod o dan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynnu Bwyd a Diod wedi’i daflu. Canfuwyd bod 38.6% o’r safleoedd yn cynnwys sbwriel diodydd sydd o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae’r ffigurau hyn yn amlygu’r effaith sylweddol y gellid ei sicrhau drwy bolisïau cenedlaethol wedi’u dylunio’n effeithiol yn y meysydd hyn.
Er hynny, mae rhesymau cryf dros fod yn obeithiol. Mae cynnydd ar fesurau polisi allweddol fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) a Chynllun Dychwelyd Blaendal (DRS) yng Nghymru yn dangos momentwm cynyddol i leihau gwastraff wrth ei ffynhonnell a symud cyfrifoldeb tuag at y cynhyrchwyr, gan helpu i greu economi fwy cylchol. Ar yr un pryd, mae gweithredu cymunedol yn parhau i gael effaith sylweddol: mae mwy na 40,568 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi tynnu dros 730,000kg o wastraff, gyda chefnogaeth dros 490 o Hybiau Codi Sbwriel a 458 o Ardaloedd Di-Sbwriel. Mae hyn yn dangos grym newid systemau ar y cyd a gweithredu ar lefel gymunedol wrth fynd i’r afael â sbwriel a diogelu amgylchedd Cymru.
Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgarwch a ariennir, ond hefyd yn tanlinellu’r angen am ymateb cadarn ac unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.
Os hoffech ragor o wybodaeth am GLÂN a’r data rydym yn ei gasglu, neu os hoffech wybod mwy am weithio gyda ni, cysylltwch â ni ar: LEQ@Keepwalestidy.cymru
Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf
Dileu sbwriel a gwastraff yn Ynys Môn
O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Ynys Môn rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.
- Rydym wedi dileu 860 bag o sbwriel o 313 lleoliad, sy’n cynrychioli 4,300 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
- Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 1,957 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £19,570 i economi Cymru.
- Mae gennym 10 o Hybiau Codi Sbwriel
- Mae gennym 14 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
- Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Ynys Môn
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.
Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.
Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Ynys Môn mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.
- Rydym wedi dyrannu 356 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 6 yn ardal Ynys Môn.
- Mae 3 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
- Mae 2 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
- Mae 4 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Ynys Môn
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli gwobrau rhyngwladol enwog y Faner Las, Gwobrau’r Arfordir, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a gwobrau’r Allwedd Werdd. Mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Ynys Môn ceir:
- 4 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
- Cyfanswm o 4 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
- 1 traeth wedi cyflawni Gwobr ‘trysor cudd’ Arfordir Gwyrdd.
Grymuso Pobl ifanc yn Ynys Môn
Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.
Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.
Gwnaethom hefyd gyflwyno cystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru lwyddiannus ledled Cymru, gan hyrwyddo arloesedd a datrys problemau creadigol i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd. Wedi’i hysbrydoli gan Y Wobr Earthshot, ymgysylltodd yr her ag ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys dysgwyr 5 i 18 oed ac annog datblygiad atebion beiddgar ac ymarferol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.
Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yn Ynys Môn:
- Mae 20 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
- O’r rhain, mae 2 yn Wobrau Platinwm.
- Mae 29 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
- Mae 18 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
- Mae 17 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.