label_skip_to_main
English
2025 - 2026

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Sir Gaerfyrddin Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Sir Gaerfyrddin

Ers mis Ebrill 2025, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn treialu GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol), dull newydd, mwy uchelgeisiol o fonitro sbwriel ledled Cymru. Gan symud y tu hwnt i strydoedd mabwysiedig, mae GLÂN yn casglu data ar draws pob man cyhoeddus, gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, traethau, meysydd parcio a chanolfannau trafnidiaeth, gan ddarparu darlun mwy cynhwysfawr a chywir o ansawdd amgylcheddol lleol.

Mae GLÂN yn sefydlu sylfaen genedlaethol newydd, felly ni ellir cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data blaenorol LEAMS. Yn hytrach, mae’n cynnig set ddata fwy cyfoethog i lywio ymyriadau mwy targedig ac effeithiol. Gyda mewnwelediadau manwl ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol iawn, mae GLÂN yn helpu awdurdodau lleol a rheolwyr tir i wella cynllunio, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd gweithredol.

Methodoleg

Mae’r fethodoleg yn cofnodi dros 70 o eitemau a grwpiau sbwriel, ynghyd â graddau glendid sy’n cyd-fynd â safonau COPLAR (gyda graddau A a B yn adlewyrchu lefelau derbyniol yn fras o dan LEAMS). Mae hefyd yn cyflwyno graddau ‘golygfa stryd’, sy’n cwmpasu dangosyddion ehangach o ansawdd amgylcheddol megis graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a chyflwr seilwaith. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos cysylltiad cryf rhwng lefelau sbwriel a’r ffactorau ehangach hyn, gan atgyfnerthu’r ffaith bod lleoedd glân, wedi’u rheoli’n dda yn dibynnu ar fwy na sbwriel yn unig.

Yn Sir Gaerfyrddin, cyrhaeddodd 64.5% o’r ardaloedd a arolygwyd safon dderbyniol o lendid, gyda mannau hamdden yn perfformio orau ymhlith y mathau o dir a aseswyd (ac eithrio un safle dŵr ymdrochi). Cofnododd ardaloedd masnachol a thrafnidiaeth y lefelau isaf o lendid.

Yn gyffredinol, cyflawnodd 83.6% o’r safleoedd raddau A neu B ar gyfer golygfa stryd, er i bresenoldeb o dipio anghyfreithlon gael ei nodi mewn 9.0% o’r safleoedd.

Y cyfartaledd (canolrif) o nifer y darnau o sbwriel ar gyfer y safleoedd a arolygwyd oedd 18.

Canfuwyd bod 76.6% o’r safleoedd a arolygwyd yn cynnwys eitemau sy’n dod o dan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynnu Bwyd a Diod wedi’i daflu. Canfuwyd bod 58.2% o’r safleoedd yn cynnwys sbwriel diodydd sydd o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae’r ffigurau hyn yn amlygu’r effaith sylweddol y gellid ei sicrhau drwy bolisïau cenedlaethol wedi’u dylunio’n effeithiol yn y meysydd hyn.

Er hynny, mae rhesymau cryf dros fod yn obeithiol. Mae cynnydd ar fesurau polisi allweddol fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) a Chynllun Dychwelyd Blaendal (DRS) yng Nghymru yn dangos momentwm cynyddol i leihau gwastraff wrth ei ffynhonnell a symud cyfrifoldeb tuag at y cynhyrchwyr, gan helpu i greu economi fwy cylchol. Ar yr un pryd, mae gweithredu cymunedol yn parhau i gael effaith sylweddol: mae mwy na 40,568 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi tynnu dros 730,000kg o wastraff, gyda chefnogaeth dros 490 o Hybiau Codi Sbwriel a 458 o Ardaloedd Di-Sbwriel. Mae hyn yn dangos grym newid systemau ar y cyd a gweithredu ar lefel gymunedol wrth fynd i’r afael â sbwriel a diogelu amgylchedd Cymru.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgarwch a ariennir, ond hefyd yn tanlinellu’r angen am ymateb cadarn ac unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am GLÂN a’r data rydym yn ei gasglu, neu os hoffech wybod mwy am weithio gyda ni, cysylltwch â ni ar:  LEQ@Keepwalestidy.cymru 

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yn Sir Gaerfyrddin

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Sir Gaerfyrddin rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 530 bag o sbwriel o 234 lleoliad, sy’n cynrychioli 2,650 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 1,132 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £11,320 i economi Cymru.
  • Mae gennym 16 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 4 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
530 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
234 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
2,650 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
1,132 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
16 Hybiau Codi Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Sir Gaerfyrddin

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Gaerfyrddin mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 356 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 22 yn ardal Sir Gaerfyrddin.
  • Mae 4 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 4 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 5 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
22 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
4 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
4 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
5 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli gwobrau rhyngwladol enwog y Faner Las, Gwobrau’r Arfordir, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a gwobrau’r Allwedd Werdd. Mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Gaerfyrddin ceir:

  • 5 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 7 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 12 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 1 Baner Glas yn chwifio mewn ardal arfordirol.
5 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n llawn yn chwifio
7 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
12 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
1 Baner Las a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Gwnaethom hefyd gyflwyno cystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru lwyddiannus ledled Cymru, gan hyrwyddo arloesedd a datrys problemau creadigol i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd. Wedi’i hysbrydoli gan Y Wobr Earthshot, ymgysylltodd yr her ag ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys dysgwyr 5 i 18 oed ac annog datblygiad atebion beiddgar ac ymarferol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Gaerfyrddin:

  • Mae 107 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 73 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 103 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 57 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 16 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
107 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
103 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
57 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
16 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
73 Ysgolion â Gwobr Platinwm
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13