Neges gan Owen
Mae’r Adroddiad Effaith hwn, yn fwy na dim, yn ddathliad.
Dathliad o’r hyn y gall pobl ledled Cymru ei gyflawni pan fyddant yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin: gofalu am y lleoedd rydyn ni’n eu caru, diogelu ein hamgylchedd, a chreu cymunedau cryfach ac iachach.
Mae hefyd yn cyrraedd ar adeg o arwyddocâd gwirioneddol. Yn dilyn ethol Llywodraeth newydd Cymru ar 7 Mae’r llywodraeth nesaf wedi etifeddu her sylweddol ond hefyd gyfle enfawr. Mae cyfle newydd i roi’r amgylchedd, ansawdd ein lleoedd lleol a balchder yn ein cymunedau wrth wraidd penderfyniadau cenedlaethol.
Yr her o’n blaenau
Rydym eisoes yn gwybod bod y materion hyn yn bwysig iawn i bobl ledled Cymru. Nid syniadau haniaethol yw strydoedd glân, parciau croesawgar, natur lewyrchus ac arfordiroedd sy’n cael eu gofalu amdanynt – maent yn bethau bob dydd sy’n siapio sut rydyn ni’n teimlo am y lleoedd rydym yn byw, gweithio a magu ein teuluoedd ynddynt. Maent yn effeithio ar ein hiechyd, ein llesiant a’n hymdeimlad o berthyn.
Mae’r her sydd o’n blaen yn eglur. Mae gormod o’n strydoedd, afonydd, parciau a thraethau yn dal i gael eu heffeithio gan sbwriel, gwastraff a dirywiad yn ansawdd yr amgylchedd. Mae blynyddoedd o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus wedi ei gwneud hi’n anoddach i awdurdodau lleol a chymunedau gadw i fyny, er gwaethaf eu hymrwymiad a’u penderfyniad. Mae sbwriel yn broblem amlwg a pharhaus, ac mae’n rhaid i ni barhau i’w wynebu’n onest.
Ond ochr yn ochr â’r her honno mae cyfle gwirioneddol. Mae gan Gymru’r gefnogaeth gyhoeddus, y cyfeiriad polisi ac, yn hollbwysig, yr ysbryd cymunedol i droi’r llanw. Gyda’r cydweithio, y buddsoddiad a’r ymdrech ar y cyd iawn, gallwn leihau gwastraff, newid ymddygiad a symud tuag at economi wirioneddol gylchol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld beth sy’n bosibl pan fydd yr ymdrech honno’n dod at ei gilydd.
Cymunedau ar waith
Ledled Cymru, rydym wedi dod â miloedd o wirfoddolwyr ynghyd sydd wedi rhoi eu hamser a’u hegni i daclo sbwriel a gwastraff, ac i fynd ati i lanhau strydoedd, traethau, llwybrau a mannau gwyrdd. Eu gweithredoedd ymarferol, yn aml heb fawr o sylw, yw’r sylfaen i gymunedau glanach a mwy croesawgar.
Ar yr un pryd, rydym wedi parhau i rymuso pobl ifanc i ofalu am eu hamgylchedd. Drwy ein rhaglen Eco-Sgolion, mae disgyblion ledled Cymru wedi cael eu hysbrydoli i weithredu’n ystyrlon, drwy weithgareddau fel lleihau gwastraff a diogelu natur sydd yn eu tro yn helpu Cymru i gadw ei safle fel arweinydd byd-eang ym maes addysg amgylcheddol.
Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i osod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol, gyda pharciau a thraethau ledled Cymru unwaith eto yn cyrraedd ac yn rhagori ar feincnodau rhyngwladol. Mae’r safonau hyn yn bwysig gan eu bod yn dangos beth sy’n bosibl, yn codi uchelgais, ac yn dangos gwerth buddsoddi yn ein lleoedd cyffredin.
A thrwy raglenni fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, mae cymunedau wedi creu ac adfer cannoedd o fannau gwyrdd fel gerddi cymunedol, dolydd blodau gwyllt a chynefinoedd sydd yn dod â natur yn nes at gareg eich drws. Nid bioamrywiaeth yn unig sy’n elwa; mae’r mannau hyn yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn gwella llesiant.
Cyfrifoldeb ar y cyd
Ond er bod y gweithgareddau hyn yn dangos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, rym gweithredu cadarnhaol, ni all gwirfoddolwyr ac awdurdodau lleol ar eu pen eu hunain ddatrys problem systemig. Mae sbwriel a gwastraff yn symptomau o faterion ehangach ynghylch sut rydym yn cynhyrchu, defnyddio ac yn gwaredu cynnyrch, ac mae angen newid y systemau hynny.
Dyna pam mae’r flwyddyn sydd o’n blaen mor bwysig. Gyda diwygiadau mawr ar y gorwel, gan gynnwys Cynllun Dychwelyd Blaendal a mesurau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, mae gan Gymru gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i atal sbwriel wrth y ffynhonnell ac ailfeddwl sut rydym yn gwerthfawrogi ac yn ailddefnyddio adnoddau. Bydd polisi yn allweddol, ond dim ond gyda gweithredu cenedlaethol cydlynol, partneriaethau cryf ac ymrwymiad parhaus y bydd yn llwyddo.
Yn Cadwch Gymru’n Daclus, dyna’n union yr ydym yn galw amdano: cenhadaeth genedlaethol ar y cyd i adfer balchder yn ein mannau cyhoeddus, cefnogi cymunedau, a chreu lleoedd glanach a gwyrddach i bawb. Mae’r Adroddiad Effaith hwn yn dangos nid yn unig yr hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni, ond hefyd yr hyn sy’n bosibl o hyd.
Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein noddwyr a’n partneriaid. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Moondance, McDonald’s, Keep Britain Tidy, CGGC, a’r llu o awdurdodau lleol a sefydliadau sy’n cefnogi ein gwaith. Diolch o galon.
Os hoffai chi neu eich sefydliad fod yn rhan o’r daith hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Owen Derbyshire
CEO, Keep Wales Tidy 
Cymru Hardd – Ein strategaeth ar gyfer y degawd
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i amgylcheddau lleol ledled Cymru.
Rydym yn darparu gweithredu ymarferol, addysg amgylcheddol, ac yn gosod y safonau ar gyfer parciau a thraethau yn ogystal â bod yn arbenigwyr polisi ac ymchwil, yn cefnogi’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau gyda materion amgylcheddol.
Darllen ein strategaeth
GLÂN
Data cenedlaethol – gweithredu lleol
Dros y deunaw mis diwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datblygu dull newydd o ddeall sbwriel a glendid ledled Cymru.
Mae GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol) yn system fonitro o safon fyd-eang sy’n edrych nid yn unig ar faint y sbwriel, ond hefyd ar ansawdd ehangach ein mannau cyhoeddus. O strydoedd a pharciau i draethau, mae’n rhoi darlun clir a chyson i ni o ansawdd amgylcheddol lleol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae’r dull newydd hwn wedi creu sylfaen genedlaethol gadarn, gan ein helpu i ddeall yn well ble mae angen gweithredu a pha mor effeithiol yw ein hymdrechion dros amser. Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio polisi’r dyfodol a chefnogi ymyriadau targedig i atal sbwriel wrth y ffynhonnell a gwella’r ffordd y darperir gwasanaethau.
Wrth i’r dirwedd bolisi esblygu, felly hefyd mae’r angen am ddata gwell a mwy manwl. Gan adeiladu ar bron i 20 mlynedd o brofiad, ac wrth weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, yn 2025 symudon ni i ffwrdd o’r system LEAMS flaenorol i’r fethodoleg GLÂN newydd.
Mae GLÂN yn cymryd golwg ehangach a mwy manwl, ac felly ni ellir ei gymharu’n uniongyrchol â data blaenorol. Gyda’i chyflwyniad, rydym wedi gosod man cychwyn newydd ar gyfer mesur cynnydd, gan gefnogi ein huchelgais ar y cyd i gyflawni Cymru heb sbwriel erbyn 2030.
Gweld ein Data Sbwriel
Adroddiadau awdurdodau lleol
Cliciwch ar ardal awdurdod lleol i weld yr adroddiad effaith ar gyfer yr ardal hon.

Partneriaethau gyda phwrpas
Mae cynghorau ac awdurdodau lleol eisoes yn chwarae rhan enfawr wrth gefnogi gwaith Cadwch Gymru’n Daclus ar lawr gwlad, ac mae partneriaethau cyllido yn un o’r ffyrdd y gall y gefnogaeth honno fynd hyd yn oed ymhellach. Drwy weithio gyda ni ar brosiectau a ddyfernir cyllid ar eu cyfer, rydych yn helpu i droi blaenoriaethau cyffredin yn weithredu ymarferol, gan gefnogi gwirfoddolwyr, cryfhau darpariaeth leol a sicrhau bod gan syniadau da’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i lwyddo.
Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i lunio cyfleoedd cyllido sy’n ymateb i anghenion lleol, yn ychwanegu gwerth at weithgareddau presennol ac yn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael. Boed hynny’n cefnogi cyflawniad, treialu dulliau newydd neu ehangu’r hyn sy’n gweithio, mae’r math hwn o gydweithio yn helpu i greu buddion parhaol i gymunedau a’r lleoedd rydym yn eu rhannu.
Rydym bob amser yn hapus i gael sgwrs am yr hyn a allai weithio orau yn eich ardal.
Ewch i bartneriaethau
Straeon llwyddiant
Mae ein gwaith yn amrywio’n eang – o weithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol, i osod safonau ar gyfer parciau a thraethau. Dyma rai o’r prosiectau llwyddiannus yr ydym wedi eu cyflawni eleni.
Grymuso Pobl Ifanc gyda Ysgol Gynradd Coety
Enghraifft o sut maent yn gwneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Darllen yr astudiaeth achos
Dileu sbwriel a gwastraff gyda My Green Valley
Arwain y ffordd tuag at amgylchedd lleol glanach a mwy diogel
Darllen yr astudiaeth achos
Gosod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol gydag Eglwys Unedig y Barri
Yn gosod y safon yn uchel iawn mewn lleoliad sydd wedi ennill gwobrau
Darllen yr astudiaeth achos
Creu ac adfer mannau gwyrdd gyda Tyfu Together
Creu a gofalu am fannau gwyrdd sy’n cynnig lloches i bobl leol a bywyd gwyllt
Darllen yr astudiaeth achosMae creu amgylchedd gwyrddach, iachach yn hanfodol os ydym am gefnogi cenedlaethau'r dyfodol, ac mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus yn enghraifft perffaith o'r hyn rydym yn ceisio cyflawni drwy'n strategaeth ‘Cymru Can'. Trwy feithrin diwylliant o ofal tuag at ein byd naturiol, maen nhw’n adeiladu diwylliant iachach a chadarnhaol. Cymru fwy gwydn, a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru



