label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2024-25

Adroddiad Interim (Mis Mawrth i Fis Medi 2024)

Sgrolio i ddarllen

Neges gan Owen

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn gwybod bod pethau anhygoel yn digwydd pan fydd cymunedau’n dod at ei gilydd. Mae’r adroddiad effaith interim hwn, yn cwmpasu mis Ebrill i fis Medi 2024, yn rhoi cipolwg ar y cyflawniadau eithriadol yr ydym wedi eu cefnogi ledled Cymru trwy uno ein tîm ymroddedig gyda’n rhwydwaith rhagorol o wirfoddolwyr, cefnogwyr a phartneriaid.

Mae ein tîm yn gwneud gwaith anhygoel yn mynd i’r afael â’r cefndir o gynnydd pryderus mewn sbwriel, sydd yn her sylweddol i ni i gyd. Datgelodd ein harolygon LEAMS diweddaraf gynnydd eithriadol o 286% yn nifer y strydoedd â’r radd waethaf, sef ‘D’ ers y llynedd – strydoedd Cymru â lefelau glendid annerbyniol. Dyma rai o’r canlyniadau gwaethaf yr ydym wedi eu gweld mewn 17 flynedd o arolygon, ac oni bai bod camau pendant yn cael eu cymryd yn fuan, bydd y sefyllfa ond yn gwaethygu ymhellach

Ond nid yw’n newyddion gwael i gyd – mewn gwirionedd, mae digonedd i’w ddathlu.

Daeth ein prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur â natur i galon cannoedd o gymunedau trefol ledled Cymru. Eleni, rydym wedi gwobrwyo 444 o erddi cymunedol eraill, o fannau tyfu bwyd i fannau sy’n hafan i beillwyr. Mae’r gerddi hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn trawsnewid ein cymunedau ac yn creu mannau bywiog i bawb eu mwynhau.

wyf hefyd wrth fy modd yn adrodd bod Cymru yn parhau i arwain y byd trwy chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall. Mae’r cyflawniad hwn yn dangos yr ymdrech gymunedol anhygoel a’r cariad a’r balchder sydd gan bobl yn eu mannau gwyrdd lleol.

Ac mae mwy – rydym yn cyrraedd cerddig milltir sylweddol gyda’n gwaith i rymuso pobl ifanc. Eleni oedd 30 mlwyddiant Eco-Sgolion, a dathlwyd trwy gyhoeddi’r newyddion gwych mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gyrraedd targed partneriaeth Addysg Werdd UNESCO, gyda 50% o ysgolion y genedl bellach ag achrediad addysg amgylcheddol.

Er bod mwy o waith i’w wneud, gyda chefnogaeth barhaus ein partneriaid, gallwn ddatblygu’r momentwm hwn, mynd i’r afael â heriau sbwriel a gwastraff, a diogelu’r mannau yr ydym yn eu trysori am genedlaethau i ddod.

Mae’n rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i fynegi ein diolchgarwch i’n partneriaid ariannu, y mae eu cyfraniadau wedi gwneud ein llwyddiannau’n bosibl hyd yn hyn. Diolch arbennig i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogi ein menter Y Goedwig Hir Drefol, ac i Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Swire am gefnogi ein gwaith Ansawdd Amgylcheddol Lleol mewn cymunedau a danwasanaethir yn aml. Yn ogystal, rydym yn ddiolchgar i’r Awdurdodau Lleol sydd wedi darparu cyllid trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – mae eich cefnogaeth wedi cael effaith amlwg.

Diolch am fod yn rhan o’r daith hon. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi i greu Cymru lanach a gwyrddach.

Diolch yn fawr,

Owen Derbyshire Prif Swyddog Gweithredol, Cadwch Gymru’n Daclus

Cymru Hardd – Ein strategaeth ar gyfer y degawd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i amgylcheddau lleol ledled Cymru.

Rydym yn darparu gweithredu ymarferol, addysg amgylcheddol, ac yn gosod y safonau ar gyfer parciau a thraethau yn ogystal â bod yn arbenigwyr polisi ac ymchwil, yn cefnogi’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau gyda materion amgylcheddol.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

Dileu sbwriel a gwastraff

Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru i sefydlu ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru yn parhau i ysbrydoli pobl i weithredu i ofalu am yr amgylchedd. Mae Caru Cymru yn rhaglen sy’n tyfu’n barhaus sy’n cefnogi Hybiau Codi Sbwriel, Arwyr Sbwriel, Ardaloedd Di-sbwriel a digwyddiadau codi sbwriel fel Gwanwyn Glân Cymru ar draws y wlad, yn ogystal â nifer o ymgyrchoedd newid ymddygiad.

Creu ac adfer mannau gwyrdd

Gwyddom fod mannau gwyrdd o ansawdd yn hanfodol i bobl a bywyd gwyllt, yn cynnig hafan hanfodol ar gyfer ymlacio a bioamrywiaeth

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn trawsnewid cymunedau trefol ledled Cymru trwy wneud natur yn greiddiol i’r ardaloedd hyn. Mae’r prosiect yn creu gerddi cymunedol fel mannau tyfu bwyd a hafan sy’n dda i beillwyr sydd yn cael effaith wirioneddol.

Mae coedwrych yn cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau ac yn gwasanaethu fel coridorau bywyd gwyllt. Mae llawer mewn perygl o gael eu hesgeuluso a’u rheoli’n amhriodol, felly rydym wedi ailsefydlu prosiect Y Goedwig Hir i ddiogelu ac adfer coedwrych yng Nghaerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Gyda’n gilydd, mae’r mentrau hyn yn adfer ac yn creu mannau gwyrdd sydd o fudd i natur a phobl Cymru.

Gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol

Mae ansawdd amgylcheddol yn greiddiol i’n diben.

Rydym yn gosod safonau uchel ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru trwy ein hamrywiaeth o wobrau rhyngwladol yn cynnwys y Faner Werdd, y Faner Las, Gwobrau Glan Môr ac Arfordir.

Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n safleoedd penigamp, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â chyrchfan o safon fyd-eang sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.

 

Grymuso pobl ifanc

Rydym yn gwybod, trwy flaenoriaethu ymgysylltu â ieuenctid, gallwn sicrhau dealltwriaeth gynnar o effaith hirdymor eu hymddygiad a chefnogi creu gwarchodwyr ar gyfer dyfodol Cymru a’r blaned.

Mewn Eco-Sgolion rydym yn cynnig arweiniad arbenigol, hyfforddiant ac adnoddau i gyflwyno addysg amgylcheddol i athrawon a disgyblion sy’n cefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol gyda modiwlau ar destunau fel newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Rydym yn parhau i weithio gyda phobl ifanc y tu hwnt i’r blynyddoedd ysgol, ac mae ein Bwrdd Ieuenctid yn darparu llwyfan i bobl ifanc 16-25 oed leisio eu barn ar faterion amgylcheddol, herio ein honiadau a chyflwyno syniadau newydd.

Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau. Mae Cymru Hardd, ein strategaeth ar gyfer 2022-2030, yn amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni’r weledigaeth hon, gan weithio’n agos gyda gwirfoddolwyr, y llywodraeth, sefydliadau corfforaethol a lleol.

Darllen ein strategaeth.

Adroddiadau awdurdodau lleol

Cliciwch ar ardal awdurdod lleol i weld yr adroddiad effaith ar gyfer yr ardal hon.

AbertaweBlaenau GwentBro MorgannwgCaerdyddCaerffiliCasnewyddCastell-nedd Port TalbotCeredigionConwyGwyneddMerthyr TudfulPen-y-bont ar OgwrPowysRhondda Cynon TafSir BenfroSir DdinbychSir FynwySir GaerfyrddinSir y FflintTorfaenWrecsamYnys Môn Ynys MônGweld adroddiadBlaenau GwentGweld adroddiadPen-y-bont ar OgwrGweld adroddiadCaerffiliGweld adroddiadCaerdyddGweld adroddiadSir GaerfyrddinGweld adroddiadCeredigionGweld adroddiadConwyGweld adroddiadSir DdinbychGweld adroddiadSir y FflintGweld adroddiadGwyneddGweld adroddiadMerthyr TudfulGweld adroddiadSir FynwyGweld adroddiadCastell-nedd Port TalbotGweld adroddiadCasnewyddGweld adroddiadSir BenfroGweld adroddiadPowysGweld adroddiadRhondda Cynon TafGweld adroddiadAbertaweGweld adroddiadTorfaenGweld adroddiadBro MorgannwgGweld adroddiadWrecsamGweld adroddiad
Gweld adroddiad

Astudiaethau achos

Mae ein gwaith yn amrywio’n eang – o weithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol, i osod safonau ar gyfer parciau a thraethau. Dyma rai o’r prosiectau llwyddiannus yr ydym wedi eu cyflawni eleni.

Dileu sbwriel a gwastraff gyda Partneriaeth CoStar

Arwain y ffordd i amgylchedd lleol glanach, di-wastraff

Darllen yr astudiaeth achos

Creu ac adfer mannau gwyrdd gyda Hope St Mellons

Creu a gofalu am fannau gwyrdd sy’n darparu hafan i bobl leol a bywyd gwyllt.

Darllen yr astudiaeth achos

Gosod Safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol gyda Choed Cwm Penllergare

Gosod y bar yn uchel iawn mewn safle sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd.

Darllen yr astudiaeth achos

Grymuso pobl ifanc yn Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Arddangos sut maen nhw’n gwneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.

Darllen yr astudiaeth achos

"Mae creu amgylchedd gwyrddach, iachach yn hanfodol os ydym am gefnogi cenedlaethau'r dyfodol, ac mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus yn enghraifft perffaith o'r hyn rydym yn ceisio cyflawni drwy'n strategaeth ‘Cymru Can'. Trwy feithrin diwylliant o ofal tuag at ein byd naturiol, maen nhw’n adeiladu diwylliant iachach a chadarnhaol. Cymru fwy gwydn, a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol."

Derek Walker, Future Generations Commissioner for Wales
>

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >