label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2024-25

Caerdydd

Adroddiad Interim (Mis Mawrth i Fis Medi 2024)

Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Caerdydd

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Caerdydd sgôr dangosydd glendid o 64.7 yn ystod ein harolygon LEAMS yn 2024-25. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y strydoedd gradd ‘A’ a ‘B+’, ond roedd cynnydd yn nifer y strydoedd gradd ‘C’ a ‘D’, gan arwain at 83.3% o strydoedd yn cael eu hystyried i fod â lefel dderbyniol o lendid.

Mae sbwriel o ffynonellau unigol a domestig yng Nghaerdydd yn parhau i fod yn broblem, ac mae cynnydd sylweddol mewn sbwriel arall (na ellir ei adnabod), sydd wedi arwain at y math yma o sbwriel yn mynd y tu hwnt i sbwriel domestig. Sbwriel sydd yn gysylltiedig â smygu a sbwriel sy’n ymwneud â melysion sydd yn dal i fod yn fathau mwyaf cyffredin o sbwriel, ond mae pob un o’r pedwar math (smygu, diodydd, melysion a bwyd brys) wedi cynyddu o’r llynedd.

Mae wedi bod yn dda gweld rhai gwelliannau mewn ardaloedd ond mae gwaith i’w wneud o hyd trwy ataliaeth wedi ei thargedu a newid ymddygiad mewn demograffeg benodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Caerdydd i greu dinas fwy cydnerth trwy gyflwyno Caru Cymru a chefnogi Cynllun Corfforaethol Caerdydd 2023-2026 am ‘Gaerdydd Gryfach, Decach’ yn yr uchelgais i leihau sbwriel, cynyddu ailgylchu a hyrwyddo aer glân.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Caerdydd a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ. Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith hanner ffordd drwy’r flwyddyn

Dileu sbwriel a gwastraff yn Caerdydd

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i bontio i economi gylchol yng Nghymru.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ar draws Caerdydd rydym wedi ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd amgylcheddol lleol mewn sawl ffordd:

  • Rydym wedi dileu 4,401 bag o sbwriel o 790 lleoliad, sy’n cynrychioli 22,005 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 4,306 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £43,060 i economi Cymru.
  • Mae gennym 19 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 31 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
4,401 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
790 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
22,005 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
4,306 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
19 Hybiau Codi Sbwriel
31 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Caerdydd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Caerdydd mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • O 648 o becynnau gardd sydd ar gael eleni, rydym wedi dyrannu 444 i grwpiau yn y cyfnod hwn. O’r rhain mae 49 yn ardal Caerdydd.
  • Mae 8 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 13 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 9 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
49 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
8 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
13 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
9 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Caerdydd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Eleni hyd yn hyn yn Caerdydd mae:

 

  • 19 o faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 22 o Faneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 41 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
19 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n llawn yn chwifio
22 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
41 Cyfanswm y Baneri Gwrydd a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Caerdydd

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Eleni hyd yn hyn yn Caerdydd:

  • Mae 56 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 29 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 80 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 27 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 8 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
56 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
80 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
27 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
8 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
29 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >