label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2024-25

Ceredigion

Adroddiad Interim (Mis Mawrth i Fis Medi 2024)

Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Ceredigion

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Canran y strydoedd gradd B ac uwch ar gyfer arolygon LEAMS Ceredigion yn 2024-25 oedd 95.6% a’r dangosydd glendid oedd un o’r uchaf yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hon.

Er bod rhai mathau o sbwriel melysion a diodydd wedi cynyddu ychydig, mae sbwriel smygu a bwyd brys wedi lleihau. Mae sbwriel yng Ngheredigion yn bennaf o ffynonellau eraill (na ellir eu hadnabod) ac unigolion.

Er bod Ceredigion yn gwneud yn dda iawn yn gyffredinol, bydd parhau i gydweithio ar ymyriadau wedi eu targedu ar gyfer mathau penodol o sbwriel a demograffeg yn arwain at fwy o welliannau yn y dyfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Ceredigion i greu sir lân a gwyrdd trwy gyflwyno Caru Cymru, gan gefnogi Strategaeth Gorfforaethol Ceredigion 2022-2027 yn ‘Creu Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach a Mwy Cysylltiedig’, gan helpu i wella ailgylchu a hyrwyddo twristiaeth fwy cyfrifol.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhaui ddilyn dull strategol clir ledled Ceredigion a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ. Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith hanner ffordd drwy’r flwyddyn

Dileu sbwriel a gwastraff yn Ceredigion

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i bontio i economi gylchol yng Nghymru.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ar draws Ceredigion rydym wedi ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd amgylcheddol lleol mewn sawl ffordd:

  • Rydym wedi dileu 75 bag o sbwriel o 12 lleoliad, sy’n cynrychioli 375 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 143 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £1,430 i economi Cymru.
  • Mae gennym 6 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
75 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
12 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
375 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
143 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
6 Hybiau Codi Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Ceredigion

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Ceredigion mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • O 648 o becynnau gardd sydd ar gael eleni, rydym wedi dyrannu 444 i grwpiau yn y cyfnod hwn. O’r rhain mae 16 yn ardal Ceredigion.
  • Mae 4 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 5 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
16 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
4 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
1 Grwp yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
5 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Ceredigion

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Eleni hyd yn hyn yn Ceredigion mae:

 

  • 4 o faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 4 o Faneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 8 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 4 o Faneri Glas yn chwifio mewn ardaloedd arfordirol.
  • 6 o draethau wedi cyflawni statws Gwobr Glan Môr – y statws cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau
  • 4 o draethau wedi cyflawni Gwobr ‘trysor cudd’ Arfordir Gwyrdd.
4 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n llawn yn chwifio
4 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
8 Cyfanswm y Baneri Gwrydd a ddyfarnwyd
4 Baner Glas a ddyfarnwyd
6 Gwobr Glan Môr a ddyfarnwyd
4 Gwobrau Arfordir Gwyrdd a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Ceredigion

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Eleni hyd yn hyn yn Ceredigion:

  • Mae 44 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 19 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 35 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 1 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth
  • Mae 7 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
44 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
35 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
1 Ysgol sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
7 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
19 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >