label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2024-25

Ynys Môn

Adroddiad Interim (Mis Mawrth i Fis Medi 2024)

Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Ynys Môn

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Ynys Môn sgôr glendid o 70.9 yn arolygon LEAMS 2024-25. Gostyngiad bach yn y sgôr glendid eleni o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Syrthiodd 8.1% o strydoedd islaw safon dderbyniol (gradd B) eleni, felly mae’n parhau’n bwysig i waith barhau i sicrhau bod y safon uchel gyffredinol a welir ar Ynys Môn yn cael ei gynnal yn gyffredinol.

Mae’r ganran uchaf o sbwriel gan unigolion, yn arbennig sbwriel sydd yn gysylltiedig â smygu, eitemau melysion. Mae eitemau sbwriel o ffynonellau domestig wedi dyblu eleni ac roedd gan 14% o strydoedd bresenoldeb cadachau gwlyb o’u cymharu â 0 a gofnodwyd y llynedd. Mae presenoldeb baw cŵn yn parhau i leihau, wedi ei ganfod ar 8.1% o strydoedd a arolygwyd eleni.

Er bod perfformiad yn y sir yn dda yn gyffredinol, bydd parhau i gydweithio ar ymyriadau wedi eu targedu ar gyfer mathau penodol o sbwriel a demograffeg yn arwain at fwy o welliannau yn y dyfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Ynys Môn i greu bwrdeistref sirol iach a ffyniannus trwy gyflwyno Caru Cymru, sy’n cefnogi Cynllun Cyngor Ynys Môn 2023-2028 i gyflawni ei uchelgais i ddiogelu’r amgylchedd naturiol a lleihau gwastraff a sbwriel.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Ynys Môn a Chymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ. Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith hanner ffordd drwy’r flwyddyn

Dileu sbwriel a gwastraff yn Ynys Môn

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i bontio i economi gylchol yng Nghymru.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ar draws Ynys Môn rydym wedi ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd amgylcheddol lleol mewn sawl ffordd:

  • Rydym wedi dileu 330 bag o sbwriel o 78 lleoliad, sy’n cynrychioli 1,650 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 1,165 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £11,650 i economi Cymru.
  • Mae gennym 8 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 6 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
330 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
78 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
1,650 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
1,165 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
8 Hybiau Codi Sbwriel
6 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Ynys Môn

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Ynys Môn mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • O 648 o becynnau gardd sydd ar gael eleni, rydym wedi dyrannu 444 i grwpiau yn y cyfnod hwn. O’r rhain mae 13 yn ardal Ynys Môn.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 2 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
13 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
1 Grwp â chyfranogwyr anabl
1 Grwp yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
2 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Ynys Môn

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Eleni hyd yn hyn yn Ynys Môn mae:

 

  • 4 o Faneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 4 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 1 traeth wedi cyflawni Gwobr ‘trysor cudd’ Arfordir Gwyrdd.
4 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
4 Cyfanswm y Baneri Gwrydd a ddyfarnwyd
1 Gwobrau Arfordir Gwyrdd a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Ynys Môn

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Eleni hyd yn hyn yn Ynys Môn:

  • Mae 23 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 2 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 15 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 5 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
23 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
15 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
5 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
2 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >