label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2024-25

Bro Morgannwg

Adroddiad Interim (Mis Mawrth i Fis Medi 2024)

Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Bro Morgannwg

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Bro Morgannwg sgôr glendid o 66.9 o’n harolygon LEAMS yn 2024-25, a chafwyd nifer fach o strydoedd gradd ‘A’. Ystyriwyd 91.3% o strydoedd yn rhai â lefel dderbyniol o lendid.

Er bod rhai dangosyddion wedi cynyddu (e.e. baw cŵn a chaniau), cafwyd rhai gwelliannau cadarnhaol yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae sbwriel yn y Fro yn bennaf gan unigolion a ffynonellau arall (na ellir eu dosbarthu), gyda phecynnau bwyd a diod yn ymddangos yn fwyaf cyffredin. Mae sbwriel smygu a diod yn gyffredin hefyd, sydd yr un peth â’r llynedd.

Er bod perfformiad yn y sir yn dda yn gyffredinol, bydd parhau i gydweithio ar ymyriadau wedi eu targedu ar gyfer mathau penodol o sbwriel a demograffeg yn arwain at fwy o welliannau yn y dyfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Bro Morgannwg am fwrdeistref lân a gwyrdd trwy gyflwyno Caru Cymru, gan gefnogi Cynllun Corfforaethol Bro Morgannwg 2020-2025 yn cyflawni ei uchelgais o wella’r ardal, gan weithio gyda’r gymuned a’i phartneriaid i sicrhau bod yr amgylchedd lleol yn lân, yn ddeniadol ac wedi ei rheoli’n dda.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Bro Morgannwg a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ. Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith hanner ffordd drwy’r flwyddyn

Dileu sbwriel a gwastraff yn Bro Morgannwg

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i bontio i economi gylchol yng Nghymru.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ar draws Bro Morgannwg rydym wedi ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd amgylcheddol lleol mewn sawl ffordd:

  • Rydym wedi dileu 1,282 bag o sbwriel o 422 lleoliad, sy’n cynrychioli 6,410 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 5,670 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £56,700 i economi Cymru.
  • Mae gennym 8 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 9 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
1,282 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
422 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
6,410 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
5,670 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
8 Hybiau Codi Sbwriel
9 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Bro Morgannwg

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Bro Morgannwg mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • O 648 o becynnau gardd sydd ar gael eleni, rydym wedi dyrannu 444 i grwpiau yn y cyfnod hwn. O’r rhain mae 15 yn ardal Bro Morgannwg.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 3 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
15 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
1 Grwp â chyfranogwyr anabl
3 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Bro Morgannwg

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Eleni hyd yn hyn yn Bro Morgannwg mae:

 

  • 13 o faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 16 o Faneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 29 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 1 Baner Glas yn chwifio mewn ardaloedd arfordirol.
  • 5 o draethau wedi cyflawni statws Gwobr Glan Môr – y statws cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau
13 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n llawn yn chwifio
16 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
29 Cyfanswm y Baneri Gwrydd a ddyfarnwyd
1 Baner Glas a ddyfarnwyd
5 Gwobr Glan Môr a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Bro Morgannwg

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Eleni hyd yn hyn yn Bro Morgannwg:

  • Mae 45 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 19 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 47 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 16 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
45 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
47 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
16 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
19 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >