label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus 2024-25

Castell-nedd Port Talbot

Adroddiad Interim (Mis Mawrth i Fis Medi 2024)

Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Castell-nedd Port Talbot

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Castell-nedd Port Talbot i greu bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach trwy gyflwyno Caru Cymru, gan gefnogi Cynllun Corfforaethol Castell-nedd Port Talbot 2022-2027 i sicrhau bod ‘pob cymuned yn gynaliadwy’ ac ‘y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r amgylchedd lleol’.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Castell-nedd Port Talbot a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ. Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith hanner ffordd drwy’r flwyddyn

Dileu sbwriel a gwastraff yn Castell-nedd Port Talbot

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i bontio i economi gylchol yng Nghymru.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ar draws Castell-nedd Port Talbot rydym wedi ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd amgylcheddol lleol mewn sawl ffordd:

  • Rydym wedi dileu 607 bag o sbwriel o 209 lleoliad, sy’n cynrychioli 3,035 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 643 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £6,430 i economi Cymru.
  • Mae gennym 22 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 4 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
607 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
209 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
3,035 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
643 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
22 Hybiau Codi Sbwriel
4 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Castell-nedd Port Talbot

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Castell-nedd Port Talbot mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • O 648 o becynnau gardd sydd ar gael eleni, rydym wedi dyrannu 444 i grwpiau yn y cyfnod hwn. O’r rhain mae 13 yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
13 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
1 Grwp â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Castell-nedd Port Talbot

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Eleni hyd yn hyn yn Castell-nedd Port Talbot mae:

 

  • 5 o faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 7 o Faneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 12 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 1 traeth wedi cyflawni statws Gwobr Glan Môr – y statws cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau
5 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n llawn yn chwifio
7 Baneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
12 Cyfanswm y Baneri Gwrydd a ddyfarnwyd
1 Gwobr Glan Môr a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Castell-nedd Port Talbot

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Eleni hyd yn hyn yn Castell-nedd Port Talbot:

  • Mae 47 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 19 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 33 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 4 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 6 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
47 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
33 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
4 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
6 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
19 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >