
Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Sir Gaerfyrddin
Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.
Mae’r sgôr glendid ar gyfer arolygon LEAMS 2024-25 LEAMS wedi dangos, yn Sir Gaerfyrddin, bod canran strydoedd gradd B ac yn uwch wedi lleihau o 96.7% yn 2023-24 i 91.4%. Er bod canran y strydoedd gradd A wedi cynyddu, roedd nifer y graddau C a D wedi hefyd.
Er bod rhai ffynonellau sbwriel wedi lleihau o ran amlygrwydd, mae pob math o sbwriel wedi cynyddu, gyda sbwriel diodydd a sbwriel yn gysylltiedig â smygu’n fwyaf amlwg.
Er bod canran y strydoedd gradd B ac uwch yn uwch na chyfartaledd yr holl arolygon a gynhaliwyd eleni, bydd parhau i gydweithio ar ymyriadau wedi eu targedu ar gyfer mathau penodol o sbwriel a demograffeg yn arwain at fwy o welliannau yn y dyfodol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Sir Gaerfyrddin i greu bwrdeistref fwy cydnerth a chynaliadwy trwy gyflwyno Caru Cymru a chefnogi 2022-2027 i alluogi pobl i fyw’n well a chreu amgylchedd iach, diogel a ffyniannus i gymunedau yn yr ardal.
Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ. Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.
Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.
Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.
Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.
Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.
Ein heffaith hanner ffordd drwy’r flwyddyn
Dileu sbwriel a gwastraff yn Sir Gaerfyrddin
O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i bontio i economi gylchol yng Nghymru.
Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ar draws Sir Gaerfyrddin rydym wedi ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd amgylcheddol lleol mewn sawl ffordd:
- Rydym wedi dileu 262 bag o sbwriel o 117 lleoliad, sy’n cynrychioli 1,310 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
- Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 169 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £1,690 i economi Cymru.
- Mae gennym 8 o Hybiau Codi Sbwriel
- Mae gennym 7 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
- Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Sir Gaerfyrddin
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.
Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.
Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir Gaerfyrddin mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.
- O 648 o becynnau gardd sydd ar gael eleni, rydym wedi dyrannu 444 i grwpiau yn y cyfnod hwn. O’r rhain mae 27 yn ardal Sir Gaerfyrddin.
- Mae 2 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
- Mae 7 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
- Mae 3 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.
Eleni hyd yn hyn yn Sir Gaerfyrddin mae:
- 5 o faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
- 4 o Faneri Gwyrdd wedi eu Dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
- Cyfanswm o 9 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
- 1 Baner Glas yn chwifio mewn ardaloedd arfordirol.
Grymuso Pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin
Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.
Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.
Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.
Eleni hyd yn hyn yn Sir Gaerfyrddin:
- Mae 113 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
- O’r rhain, mae 65 yn Wobrau Platinwm.
- Mae 100 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
- Mae 5 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
- Mae 18 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.