label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Abertawe Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Abertawe

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Abertawe sgôr dangosydd glendid o 65.2 yn ystod arolygon LEAMS 2024-25, a chafwyd nifer fach o strydoedd gradd ‘A’. Ystyriwyd 86.6% o strydoedd yn rhai â lefel dderbyniol o lendid.

Er bod rhai dangosyddion wedi cynyddu (e.e. caniau a photeli plastig), cafwyd llawer o welliannau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae sbwriel yn Abertawe yn bennaf gan unigolion a ffynonellau eraill (na ellir eu hadnabod), gyda phecynnau bwyd a diod yn fwyaf amlwg.

Er bod perfformiad yn y sir yn dda yn gyffredinol, bydd parhau i gydweithio ar ymyriadau wedi eu targedu ar gyfer mathau penodol o sbwriel a demograffeg yn arwain at fwy o welliannau yn y dyfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Abertawe am ddinas lanach a gwyrddach trwy gyflwyno Caru Cymru, gan gefnogi Cynllun Corfforaethol Abertawe 2023-2028 i gyflawni o ran adferiad natur a newid hinsawdd, gan leihau gwastraff a chreu cymunedau cydnerth lle gall pobl a natur ffynnu.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Abertawe a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yn Abertawe

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Abertawe rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 1,561 bag o sbwriel o 381 lleoliad, sy’n cynrychioli 10,927 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 4,889 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £48,890 i economi Cymru.
  • Mae gennym 15 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 28 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
1,561 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
381 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
10,927 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
4,889 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
15 Hybiau Codi Sbwriel
28 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Abertawe

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Abertawe mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 648 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 42 yn ardal Abertawe.
  • Mae 6 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 5 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 6 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
42 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
6 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
5 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
6 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Abertawe

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Abertawe ceir:

  • 9 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 13 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 22 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 3 o safleoedd y Faner Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
  • 4 o Faneri Glas yn chwifio mewn ardaloedd arfordirol.
  • 1 traeth wedi cyflawni Gwobr ‘trysor cudd’ Arfordir Gwyrdd.
9 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n llawn yn chwifio
13 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
22 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
3 Baneri Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
4 Baneri Las a ddyfarnwyd
1 Gwobr Arfordir Gwyrdd a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yn Abertawe

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yn Abertawe:

  • Mae 74 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 42 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 70 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 16 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 12 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
74 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
70 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
16 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
12 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
42 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >