label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Caerdydd Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Caerdydd

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Caerdydd sgôr dangosydd glendid o 64.7 yn ystod ein harolygon LEAMS yn 2024-25. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y strydoedd gradd ‘A’ a ‘B+’, ond roedd cynnydd yn nifer y strydoedd gradd ‘C’ a ‘D’, gan arwain at 83.3% o strydoedd yn cael eu hystyried i fod â lefel dderbyniol o lendid.

Mae sbwriel o ffynonellau unigol a domestig yng Nghaerdydd yn parhau i fod yn broblem, ac mae cynnydd sylweddol mewn sbwriel arall (na ellir ei adnabod), sydd wedi arwain at y math yma o sbwriel yn mynd y tu hwnt i sbwriel domestig. Sbwriel sydd yn gysylltiedig â smygu a sbwriel sy’n ymwneud â melysion sydd yn dal i fod yn fathau mwyaf cyffredin o sbwriel, ond mae pob un o’r pedwar math (smygu, diodydd, melysion a bwyd brys) wedi cynyddu o’r llynedd.

Mae wedi bod yn dda gweld rhai gwelliannau mewn ardaloedd ond mae gwaith i’w wneud o hyd trwy ataliaeth wedi ei thargedu a newid ymddygiad mewn demograffeg benodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Caerdydd i greu dinas fwy cydnerth trwy gyflwyno Caru Cymru a chefnogi Cynllun Corfforaethol Caerdydd 2023-2026 am ‘Gaerdydd Gryfach, Decach’ yn yr uchelgais i leihau sbwriel, cynyddu ailgylchu a hyrwyddo aer glân.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Caerdydd a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yng Nghaerdydd

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Caerdydd rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 11,453 bag o sbwriel o 2,233 lleoliad, sy’n cynrychioli 80,171 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 11,400 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £114,000 i economi Cymru.
  • Mae gennym 17 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 41 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
11,453 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
2,233 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
80,171 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
11,400 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
17 Hybiau Codi Sbwriel
41 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yng Nghaerdydd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaerdydd mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 648 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 69 yn ardal Caerdydd.
  • Mae 18 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 20 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 20 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
69 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
18 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
20 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
20 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yng Nghaerdydd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaerdydd ceir:

  • 22 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 23 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 22 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 6 o safleoedd y Faner Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
22 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n llawn yn chwifio
23 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
22 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
6 Baneri Werdd mewn ardaloedd difreintiedig

Grymuso Pobl ifanc yng Nghaerdydd

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaerdydd:

  • Mae 56 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 28 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 92 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 50 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 19 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
56 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
92 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
50 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
19 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
28 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >