label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Sir y Fflint Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Sir y Fflint

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Sir y Fflint sgôr glendid o 65.0 yn arolwg LEAMS 2024-25, sydd yn ostyngiad o’r llynedd, ac roedd gan 88.6% o strydoedd safon dderbyniol o lendid. Mae hwn yn ostyngiad sylweddol hefyd o arolwg y llynedd.

Mae pob math a ffynhonnell sbwriel wedi cynyddu o’r llynedd, ond yn gyffredinol mae sbwriel smygu a melysion ar i lawr. Mae graffiti a phostio anghyfreithlon wedi gostwng ers y llynedd, ond cafwyd cynnydd bach mewn baw cŵn.

Er bod perfformiad yn y sir yn dda ar y cyfan, bydd parhau i gydweithio ar ymyriadau wedi eu targedu ar gyfer mathau penodol o sbwriel a demograffeg yn arwain at fwy o welliannau yn y dyfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Sir y Fflint i greu bwrdeistref sirol lân a gwyrdd trwy gyflwyno Caru Cymru, sy’n cefnogi Cynllun Cyngor Sir y Fflint 2023-2028 i gyflawni ei uchelgais i greu amgylchedd glanach, sy’n cefnogi lles cymunedol ac yn hyrwyddo’r economi gylchol.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Sir y Fflint a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yn Sir y Fflint

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Sir y Fflint rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 1,414 bag o sbwriel o 942 lleoliad, sy’n cynrychioli 9,898 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 3,284 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £32,840 i economi Cymru.
  • Mae gennym 6 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 23 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
1,414 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
942 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
9,898 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
3,284 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
6 Hybiau Codi Sbwriel
23 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yn Sir y Fflint

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir y Fflint mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 648 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 26 yn ardal Sir y Fflint.
  • Mae 9 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 5 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 9 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
26 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
9 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
5 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
9 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yn Sir y Fflint

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn Sir y Fflint ceir:

  • 3 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 1 Baner wedi eu dyfarnu’n Faner Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 4 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 1 safle y Faner Werdd mewn ardal difreintiedig
3 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n llawn yn chwifio
1 Baner Werdd wedi eu Dyfarnu’n gymunedol yn chwifio
4 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
1 Baner Werdd mewn ardal difreintiedig

Grymuso Pobl ifanc yn Sir y Fflint

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yn Sir y Fflint:

  • Mae 31 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 18 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 41 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 9 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 13 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
31 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
41 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
9 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
13 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
18 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >