label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Castell-nedd Port Talbot Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Castell-nedd Port Talbot

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Castell-nedd Port Talbot i greu bwrdeistref sirol lanach a gwyrddach trwy gyflwyno Caru Cymru, gan gefnogi Cynllun Corfforaethol Castell-nedd Port Talbot 2022-2027 i sicrhau bod ‘pob cymuned yn gynaliadwy’ ac ‘y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r amgylchedd lleol’.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Castell-nedd Port Talbot a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yng Nghastell-nedd Port Talbot

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Castell-nedd Port Talbot rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 1,224 bag o sbwriel o 367 lleoliad, sy’n cynrychioli 8,568 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 1,575 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £15,750 i economi Cymru.
  • Mae gennym 18 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 13 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
1,224 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
367 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
8,568 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
1,575 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
18 Hybiau Codi Sbwriel
13 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghastell-nedd Port Talbot mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 648 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 15 yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 1 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
15 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
1 Grwp yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
1 Grwp â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghastell-nedd Port Talbot ceir:

  • 5 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 6 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 11 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 4 o safleoedd y Faner Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
  • 1 traeth wedi cyflawni statws Gwobr Glan Môr – y statws cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau
5 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n llawn yn chwifio
6 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
11 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
4 Baneri Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
1 Gwobr Glan Môr a ddyfarnwyd

Grymuso Pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yng Nghastell-nedd Port Talbot:

  • Mae 46 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 21 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 36 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 7 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 7 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
46 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
36 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
7 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
7 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
21 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >