
Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Pen-y-bont ar Ogwr
Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi ymgyrch Pen-y-bont ar Ogwr i greu bwrdeistref sirol lân a gwyrdd trwy gyflwyno Caru Cymru a chefnogi Cynllun Corfforaethol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 2023-2028 yn ei uchelgais i gael ‘defnydd gwell o adnoddau’ yn y Fwrdeistref.
Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled y Fwrdeistref a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ.
Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.
Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.
Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.
Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.
Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf
Dileu sbwriel a gwastraff ym Mhen-y-bont ar Ogwr
O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Pen-y-bont ar Ogwr rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.
- Rydym wedi dileu 1,178 bag o sbwriel o 263 lleoliad, sy’n cynrychioli 8,246 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
- Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 3,087 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £30,870 i economi Cymru.
- Mae gennym 2 o Hybiau Codi Sbwriel
- Mae gennym 6 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
- Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
Creu ac adfer mannau gwyrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.
Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.
Dros y flwyddyn ddiwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.
- Rydym wedi dyrannu 648 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 21 yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
- Mae 2 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
- Mae 7 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
- Mae 6 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr ceir:
- 4 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
- 5 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
- Cyfanswm o 9 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
- 2 o safleoedd y Faner Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
- 3 o Faneri Glas yn chwifio mewn ardaloedd arfordirol.
Grymuso Pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.
Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.
Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.
Ar draws y flwyddyn ddiwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr:
- Mae 54 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
- O’r rhain, mae 42 yn Wobrau Platinwm.
- Mae 50 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
- Mae 10 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
- Mae 11 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.