label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Conwy Sgrolio i ddarllen Gweld adroddiad Yn ôl i'r prif adroddiad

Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar draws Conwy

Mae arolygon Sbwriel Stryd (LEAMS) a gynhaliwyd yn y deuddeg ardal awdurdod lleol ar ddechrau 2024 yn ei wneud yn glir bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant i’r dyfodol. Maent yn datgelu cynnydd anhygoel o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rheiny sydd â glendid cyfan gwbl annerbyniol – sydd yn nodi un o’r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro.

Cyflawnodd Conwy sgôr glendid o 68 yn arolwg LEAMS 2024-25, sef y sgôr CI isaf i Gonwy ers i gofnodion ddechrau yn 2007-8.

Dim ond 3.9% o strydoedd gafodd raddau A eleni, sy’n cael eu hystyried yn eithriadol o lân. Ond, mae hwn yn ostyngiad sylweddol o’r flwyddyn flaenorol. Eleni, syrthiodd 12 stryd (7.9%) islaw’r safon dderbyniol (gradd B neu’n uwch) a chael C neu D.

Sbwriel o unigolion fel sbwriel yn gysylltiedig â smygu, cynwysyddion diodydd, a melysion ac eitemau o ffynonellau domestig yw’r meysydd pennaf sy’n peri pryder o hyd.

Gellid gwneud gwelliannau trwy dargedu lleoliadau â’r perfformiad gwaethaf a mynd i’r afael ag achosion penodol o’r eitemau a ganfuwyd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i gefnogi ymgyrch Conwy i greu bwrdeistref sirol lân a gwyrdd trwy gyflwyno Caru Cymru, gan gefnogi Cynllun Corfforaethol Conwy 2022-2027 yn ei uchelgais i greu cymunedau mwy diogel, lleihau sbwriel a hyrwyddo rhagoriaeth amgylcheddol.

Wrth i ni symud i mewn i 2025, byddwn yn parhau i ddilyn dull strategol clir ledled Conwy a ledled Cymru.

Mae Ein Hamgylchedd Lleol yn Bwysig. Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth hyll; mae’n llygru’n ddidrugaredd, gan danseilio iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae sbwriel ac esgeulustod yn ffenomen wirioneddol sy’n gallu adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol a dosbarthiad economaidd anghyson o adnoddau. Rydym wedi gofyn yn agored i Lywodraeth Cymru gynyddu polisïau yn mynd i’r afael ag Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) ac i roi dulliau ariannol mwy arloesol o fynd i’r afael a materion LEQ.

Mae glanhau ac atal sbwriel yn wasanaeth hanfodol i Awdurdodau Lleol a pherchnogion tir cyhoeddus eraill – mae materion parhaus fel sbwriel bwyd brys, tipio anghyfreithlon a baw cŵn nid yn unig yn hyll ond maent hefyd yn cynyddu troseddu, yn erydu ymddiriedaeth mewn awdurdodau democrataidd ac yn atal buddsoddi.

Mae’r effeithiau yn arbennig o ddifrifol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ardaloedd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, yn cynyddu troseddu, ac yn lleihau balchder cymunedol.

Ymysg yr heriau mae rhywfaint o newyddion da fodd bynnag. Diolch i Lywodraeth Cymru a chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy awdurdodau lleol, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi gweithredu ar draws hanner cyntaf 2024 i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae dros 4,000 o wirfoddolwyr a grwpiau wedi symud 85,000 kg o wastraff gyda chymorth 251 o Hybiau Codi Sbwriel a 240 o Ardaloedd Di-sbwriel.

Mae’r canlyniadau hyn yn amlygu grym gweithredu ar y cyd a gweithgareddau wedi eu hariannu, ond mae hefyd yn amlygu’r angen am ymateb cadarn, unedig i ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ein heffaith dros y flwyddyn ddiwethaf

Dileu sbwriel a gwastraff yng Nghonwy

O dan faner Caru Cymru, rydym wedi cyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau sbwriel a gwastraff, gan gynnwys cefnogaeth i’r trawsnewid i economi gylchol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws Conwy rydym wedi cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o ffyrdd.

  • Rydym wedi dileu 1,735 bag o sbwriel o 225 lleoliad, sy’n cynrychioli 12,145 kilogram o sbwriel o’r amgylchedd.
  • Mae ein byddin o wirfoddolwyr wedi rhoi 5,279 o oriau i helpu eu hamgylchedd lleol sydd yn werth £52,790 i economi Cymru.
  • Mae gennym 8 o Hybiau Codi Sbwriel
  • Mae gennym 9 o ysgolion a busnesau yn gweithredu Ardaloedd Di-sbwriel
  • Ac, rydym wedi ysbrydoli eich cymunedau lleol i weithredu a gofalu am eu hamgylchedd.
1,735 Bagiau o sbwriel wedi eu codi
225 Lleoliadau y mae sbwriel wedi cael ei godi ynddynt
12,145 Kg o sbwriel wedi ei godi o’r amgylchedd
5,279 Oriau gwirfoddoli yn helpu’r amgylchedd
8 Hybiau Codi Sbwriel
9 Ardaloedd Di-Sbwriel

Creu ac adfer mannau gwyrdd yng Nghonwy

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli sawl rhaglen genedlaethol sydd yn creu ac yn gofalu am ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd.

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ymgysylltu cymunedau lleol a sefydliadau i greu ardaloedd mwy bioamrywiol, cynefinoedd peillwyr, a chyfleoedd i dyfu bwyd ledled Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau sydd heb lawer o fannau gwyrdd hygyrch.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghonwy mae ein gweithgareddau wedi cael eu teilwra i sicrhau cynhwysiant ac i gyrraedd y bobl a’r lleoedd hynny sydd angen ein help.

  • Rydym wedi dyrannu 648 o becynnau gardd i grwpiau eleni. O'r rhain mae 23 yn ardal Conwy.
  • Mae 4 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau â chyfranogwyr anabl.
  • Mae 2 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol.
  • Mae 8 o’r rhain wedi cael eu dyrannu i grwpiau sydd yn cynnwys pobl ifanc.
23 Pecynnau gardd wedi eu dyrannu
4 Grwpiau â chyfranogwyr anabl
2 Grwpiau yn cynnwys cyfranogwyr o dan anfantais gymdeithasol
8 Grwpiau â phobl ifanc

Gosod Safonau ar gyfer Ansawdd Amgylcheddol yng Nghonwy

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rheoli’r gwobrau sydd yn enwog yn rhyngwladol, y Faner Las, y Faner Werdd ar gyfer Parciau, a Goriad Gwyrdd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni osod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol ledled Cymru ac i feithrin amgylchedd mwy bioamrywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghonwy ceir:

  • 2 o Faneri wedi eu dyfarnu’n llawn mewn parciau a mannau gwyrdd.
  • 9 o Faneri wedi eu dyfarnu’n Faneri Gymunedol yn chwifio ar draws mannau gwyrdd cymunedol.
  • Cyfanswm o 11 o fannau gwyrdd wedi cael y Faner Werdd.
  • 7 o safleoedd y Faner Werdd mewn ardaloedd difreintiedig
2 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n llawn yn chwifio
9 Baneri Werdd wedi eu dyfarnu’n Gymunedol yn chwifio
11 Cyfanswm y Baneri Werdd a ddyfarnwyd
7 Baneri Werdd mewn ardaloedd difreintiedig

Grymuso Pobl ifanc yng Nghonwy

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn cydnabod bod blaenoriaethu ymgysylltu cymunedol yn allweddol i greu gwarcheidwaid ar gyfer dyfodol sydd yn wyrddach ac yn fwy diogel i Gymru a’r blaned.

Trwy ein rhaglen Eco-Sgolion, rydym wedi rhoi miloedd lawer o bobl ifanc ar daith o effaith amgylcheddol gadarnhaol, ac wedi eu hymgysylltu’n weithredol ag ymddygaid cadarnhaol trwy weithgareddau cymunedol ehangach fel Gwanwyn Glân Cymru.

Mae eleni hefyd wedi arwain at recriwtio ein hail garfan o aelodau Bwrdd Ieuenctid – gan gynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ymgysylltu â’n gwaith a chael trafodaethau agored, gan gynnig cyngor ar y ffordd yr ydym yn llunio ein gwaith.

Ar draws y flwyddyn ddiwethaf yng Nghonwy:

  • Mae 20 o ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion (Efydd, Arian, Baner Werdd a Phlatinwm).
  • O’r rhain, mae 11 yn Wobrau Platinwm.
  • Mae 30 yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae 8 wedi mynychu hyfforddiant i athrawon a / neu sesiwn gymorth.
  • Mae 16 wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion.
20 Ysgolion â Gwobr Eco-Sgolion
30 Ysgolion sydd yn ymgysylltu’n weithredol â Cadwch Gymru’n Daclus
8 Ysgolion sydd wedi mynychu hyfforddiant i athrawon
16 Ysgolion sydd wedi mynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion
11 Ysgolion â Gwobr Platinwm

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >