label_skip_to_main
English
2024 - 2025

Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus

Sgrolio i ddarllen

Neges gan Owen

Mae’r adroddiad hwn yn dystiolaeth o bŵer gweithredu ar y cyd, ac yn ein hatgoffa o raddfa’r her sydd yn dal o’n blaenau.

Rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, cyflawnodd ein tîm, ein gwirfoddolwyr, ein cefnogwyr a’n partneriaid bethau eithriadol. O dorri record glanhau i gannoedd o fannau gwyrdd newydd, mae eleni wedi dangos beth sy’n bosibl pan fydd cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i weithredu’n gadarnhaol.

Trwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cafodd 652 o erddi cymunedol newydd eu sefydlu – o blotiau tyfu bwyd i hafanau sy’n dda i beillwyr – gan ddod â natur i ganol ein trefi a chreu mannau mwy cydnerth a mwy pleserus i fyw ynddyn nhw.

Fe wnaethon ni hefyd nodi carreg filltir bwysig mewn addysg amgylcheddol. Wrth i EcoSgolion ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed, daeth Cymru yn wlad gyntaf yn y byd i gyrraedd targed Partneriaeth Addysg Werdd UNESCO, gyda 50% o’n hysgolion bellach ag achrediad amgylcheddol.

Mae parciau Cymru hefyd yn parhau i arwain y ffordd yn fyd-eang o ran gwobrau Baner Werdd Gymunedol, ac eleni cymerodd 6,603 o wirfoddolwyr ran mewn 297 o ddigwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein noddwyr. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Swire, a’r awdurdodau lleol niferus wnaeth gefnogi ein gwaith trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn arbennig mewn cymunedau sydd ei angen fwyaf. Diolch i chi.

Ac eto, mae’r cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo yn mynd yn fwy heriol o hyd.

Er gwaethaf ymdrechion sylweddol, mae sbwriel yn parhau i fod yn bla ar ein strydoedd, yn ein parciau, ein hafonydd a’n traethau. Canfu arolwg diweddaraf LEAMS fod gan dros 35% o ardaloedd trefol yng Nghymru lefelau annerbyniol o sbwriel, ac rydym wedi gweld cynnydd o 286% yn nifer y strydoedd sydd yn cael gradd D am lendid – y raddfa waethaf posibl.

Mae ein strydoedd yn dweud stori. Ac ar hyn o bryd, mae’n un o system o dan bwysau, lle mae atebion byrdymor wedi cymryd lle atebion hirdymor, ac nid ydym wedi mynd i’r afael ag achosion sylfaenol sbwriel eto.

Ond mae gennym hefyd gyfle amlwg i newid hynny.

Rydym yn croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru o ran y Cynllun Dychwelyd Ernes i ddod, sydd yn cynnwys gwydr ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ailddefnyddio – cam hanfodol tuag at leihau sbwriel, newid ymddygiad a symud tuag at economi gylchol. Ynghyd â Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, mae’r diwygiadau hyn yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i leihau gwastraff a chreu newid parhaus.

Ond er bod yr elfennau polisi yn eu lle, mae diffyg cynllun cenedlaethol cydgysylltiedig o hyd. Mae angen fframwaith clir arnom sy’n dod â’r offer hyn ynghyd – gan gysylltu uchelgais cenedlaethol â chyflawni lleol, cefnogi cynghorau, grymuso cymunedau, sbarduno newid ymddygiad cadarnhaol, a sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu’n deg. Mae gan unigolion, busnesau, awdurdodau lleol ac elusennau i gyd rôl i’w chwarae yn gwneud i hynny ddigwydd.

Dyma pam ein bod yn credu bod yr amser yn iawn am glymblaid genedlaethol: cynghrair hirdymor ar draws sectorau o bartneriaid yn gweithio’n strategol i ffurfio cynllun a rennir, rhyddhau cyllid newydd a gwneud atal yn greiddiol i’r ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â sbwriel.

Ni allwn barhau i ddibynnu ar orlethu cynghorau a gwirfoddolwyr i ddelio â’r sefyllfa – mae angen atebion systemig ar broblemau systemig, ac rwy’n hyderus, trwy gydweithio, y gallwn droi’r llanw, adfer balchder yn ein mannau cyhoeddus, a chreu Cymru lanach, wyrddach am genedlaethau i ddod.

Os hoffech chi neu eich sefydliad fod yn rhan o’r daith honno, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Diolch yn fawr,

Owen Derbyshire CEO, Keep Wales Tidy

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

Dileu sbwriel a gwastraff

Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru i sefydlu ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru yn parhau i ysbrydoli pobl i weithredu i ofalu am yr amgylchedd. Mae Caru Cymru yn rhaglen sy’n tyfu’n barhaus sy’n cefnogi Hybiau Codi Sbwriel, Arwyr Sbwriel, Ardaloedd Di-sbwriel a digwyddiadau codi sbwriel fel Gwanwyn Glân Cymru ar draws y wlad, yn ogystal â nifer o ymgyrchoedd newid ymddygiad.

Creu ac adfer mannau gwyrdd

Gwyddom fod mannau gwyrdd o ansawdd yn hanfodol i bobl a bywyd gwyllt, yn cynnig hafan hanfodol ar gyfer ymlacio a bioamrywiaeth

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn trawsnewid cymunedau trefol ledled Cymru trwy wneud natur yn greiddiol i’r ardaloedd hyn. Mae’r prosiect yn creu gerddi cymunedol fel mannau tyfu bwyd a hafan sy’n dda i beillwyr sydd yn cael effaith wirioneddol.

Mae coedwrych yn cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau ac yn gwasanaethu fel coridorau bywyd gwyllt. Mae llawer mewn perygl o gael eu hesgeuluso a’u rheoli’n amhriodol, felly rydym wedi ailsefydlu prosiect Y Goedwig Hir i ddiogelu ac adfer coedwrych yng Nghaerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Gyda’n gilydd, mae’r mentrau hyn yn adfer ac yn creu mannau gwyrdd sydd o fudd i natur a phobl Cymru.

Gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol

Mae ansawdd amgylcheddol yn greiddiol i’n diben.

Rydym yn gosod safonau uchel ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru trwy ein hamrywiaeth o wobrau rhyngwladol yn cynnwys y Faner Werdd, y Faner Las, Gwobrau Glan Môr ac Arfordir.

Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n safleoedd penigamp, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â chyrchfan o safon fyd-eang sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.

Grymuso pobl ifanc

Rydym yn gwybod, trwy flaenoriaethu ymgysylltu â ieuenctid, gallwn sicrhau dealltwriaeth gynnar o effaith hirdymor eu hymddygiad a chefnogi creu gwarchodwyr ar gyfer dyfodol Cymru a’r blaned.

Mewn Eco-Sgolion rydym yn cynnig arweiniad arbenigol, hyfforddiant ac adnoddau i gyflwyno addysg amgylcheddol i athrawon a disgyblion sy’n cefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol gyda modiwlau ar destunau fel newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Rydym yn parhau i weithio gyda phobl ifanc y tu hwnt i’r blynyddoedd ysgol, ac mae ein Bwrdd Ieuenctid yn darparu llwyfan i bobl ifanc 16-25 oed leisio eu barn ar faterion amgylcheddol, herio ein honiadau a chyflwyno syniadau newydd.

Cymru Hardd – Ein strategaeth ar gyfer y degawd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i amgylcheddau lleol ledled Cymru.

Rydym yn darparu gweithredu ymarferol, addysg amgylcheddol, ac yn gosod y safonau ar gyfer parciau a thraethau yn ogystal â bod yn arbenigwyr polisi ac ymchwil, yn cefnogi’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau gyda materion amgylcheddol.

Darllen ein strategaeth

Adroddiadau awdurdodau lleol

Cliciwch ar ardal awdurdod lleol i weld yr adroddiad effaith ar gyfer yr ardal hon.

AbertaweBlaenau GwentBro MorgannwgCaerdyddCaerffiliCasnewyddCastell-nedd Port TalbotCeredigionConwyGwyneddMerthyr TudfulPen-y-bont ar OgwrPowysRhondda Cynon TafSir BenfroSir DdinbychSir FynwySir GaerfyrddinSir y FflintTorfaenWrecsamYnys Môn Ynys MônGweld adroddiadBlaenau GwentGweld adroddiadPen-y-bont ar OgwrGweld adroddiadCaerffiliGweld adroddiadCaerdyddGweld adroddiadSir GaerfyrddinGweld adroddiadCeredigionGweld adroddiadConwyGweld adroddiadSir DdinbychGweld adroddiadSir y FflintGweld adroddiadGwyneddGweld adroddiadMerthyr TudfulGweld adroddiadSir FynwyGweld adroddiadCastell-nedd Port TalbotGweld adroddiadCasnewyddGweld adroddiadSir BenfroGweld adroddiadPowysGweld adroddiadRhondda Cynon TafGweld adroddiadAbertaweGweld adroddiadTorfaenGweld adroddiadBro MorgannwgGweld adroddiadWrecsamGweld adroddiad
Gweld adroddiad

Astudiaethau achos

Mae ein gwaith yn amrywio’n eang – o weithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol, i osod safonau ar gyfer parciau a thraethau. Dyma rai o’r prosiectau llwyddiannus yr ydym wedi eu cyflawni eleni.

Dileu sbwriel a gwastraff gyda Partneriaeth CoStar

Arwain y ffordd i amgylchedd lleol glanach, di-wastraff

Darllen yr astudiaeth achos

Creu ac adfer mannau gwyrdd gyda Hope St Mellons

Creu a gofalu am fannau gwyrdd sy’n darparu hafan i bobl leol a bywyd gwyllt.

Darllen yr astudiaeth achos

Gosod Safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol gyda Choed Cwm Penllergare

Gosod y bar yn uchel iawn mewn safle sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd.

Darllen yr astudiaeth achos

Grymuso pobl ifanc yn Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Arddangos sut maen nhw’n gwneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.

Darllen yr astudiaeth achos

Mae creu amgylchedd gwyrddach, iachach yn hanfodol os ydym am gefnogi cenedlaethau'r dyfodol, ac mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus yn enghraifft perffaith o'r hyn rydym yn ceisio cyflawni drwy'n strategaeth ‘Cymru Can'. Trwy feithrin diwylliant o ofal tuag at ein byd naturiol, maen nhw’n adeiladu diwylliant iachach a chadarnhaol. Cymru fwy gwydn, a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
>

Ymunwch â’n cymuned

Hoffech chi gael diweddariadau, a bod y cyntaf i gael gwybod am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio gyda ni i wneud Cymru yn lle glanach a gwyrddach i bawb?

    Ni fyddwn yn llenwi eich mewnflwch â negeseuon e-bost a gallwch ganslo eich tanysgrifiad i’r rhestr hon ar unrhyw bryd.

    >